P-04-657 Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â'r Stryd Fawr a'i Llwyddiant
P-04-657 Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â'r Stryd Fawr a'i Llwyddiant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ann Dierikx a chasglwyd 89
llofnod a’r lein a 60 llofnod bapur.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil, mewn
partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, i wneud asesiad llawn o'r
berthynas rhwng codi tâl am barcio ceir a llwyddiant y stryd fawr leol.
Mae'r Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi
pwysleisio'r effaith economaidd negyddol o dalu am barcio ceir, yn enwedig mewn
trefi marchnad. Yng ngoleuni hyn - ac astudiaeth Weinidogol gyfredol ar y mater
- rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol Cymru i osod
moratoriwm ar gyflwyno tâl am barcio ceir ar safleoedd newydd yn eu
perchnogaeth ac unrhyw gynnydd mewn ffioedd parcio tan etholiad 2017.
Yn ogystal, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau
bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n rhagweithiol â chynghorau tref a chymuned
perthnasol, cyn gweithredu unrhyw newidiadau yn y drefn leol ar gyfer parcio
ceir. Dylai cynghorau tref a chymuned gael y cyfle i fabwysiadu meysydd parcio
yn eu hardal - gan nad oes unrhyw un mewn sefyllfa well i ddeall deinameg y
stryd fawr leol - cyn i unrhyw opsiynau eraill, yn enwedig rhoi gwaith rheoli
ar gontract allanol, gael eu hystyried.
Yn olaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud
rheoliadau clir a thryloyw sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ynghylch taliadau
parcio ceir i awdurdodau lleol eu dilyn.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/11/2015