Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft - Y Pedwerydd Cynulliad
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad yngylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drafft.
Roedd
hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ystyried ymestyn pwerau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ym
mis Mai 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ystyried
Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac argymhellodd y dylid
cyflwyno Bil i’r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori ar Fil drafft
newydd a fyddai’n ailddeddfu llawer o Ddeddf Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ond gyda darpariaethau newydd a
argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2015
Ymgynghoriadau
- Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft (Wedi ei gyflawni)