Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Ymchwiliad i drafod goblygiadau adolygiad Siarter y BBC i Gymru, gan ganolbwyntio ar y materion a ganlyn:

  • Y ddarpariaeth o ran gwasanaethau’r BBC yng Nghymru yn y dyfodol, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg;
  • Trefniadau cyllido, llywodraethu ac atebolrwydd y BBC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â Chymru;
  • Dyfodol S4C, gan gynnwys ei threfniadau cyllido, gweithredu a llywodraethu a’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu;
  • Sut y mae diddordebau Cymru yn cael eu cynrychioli yn ystod y broses adnewyddu.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol galwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ddydd Gwener 30 Hydref 2015.

 

Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar

 

Adroddiad ar yr Adolygiad o Siarter y BBC – Mawrth 2016

Adroddiad ar yr Adolygiad o Siarter y BBC – Mawrth 2016 - Crynodeb o gasgliadau ac argymhellion

 

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i adroddiad y Pwyllgor yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mawrth 2016.

Ymateb Llywodraeth Cymru – Ebrill 2016 (Saesneg yn unig)

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau