Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i ystyried a yw seilwaith rheilffyrdd Cymru yn diwallu anghenion teithwyr a busnesau wrth i'r galw gynyddu

 

Y cefndir

Yng Nghymru, mae nifer y siwrneiau gan deithwyr wedi cynyddu tua 50 y cant, o ychydig o dan 20 miliwn o siwrneiau yn 2003-04 i oddeutu 30 miliwn yn 2014-15.

 

Mae Network Rail yn credu y bydd nifer y teithwyr yng Nghymru yn parhau i gynyddu yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'n credu y bydd nifer y teithwyr sy’n cymudo i Gaerdydd yn cynyddu 144 y cant rhwng 2013 ac 2043. Mae hefyd yn disgwyl cynnydd o 151 y cant yn nifer y teithwyr sy'n teithio rhwng arfordir gogledd Cymru a Llundain, a chynnydd o 77 y cant yn y nifer sy’n teithio rhwng gogledd a de Cymru erbyn 2043.

 

Rydym yn gwybod bod y seilwaith rheilffyrdd drwy Brydain o dan bwysau wrth i nifer gynyddol ddefnyddio gwasanaethau trên. Gofynnodd y Pwyllgor am farn ynghylch:

  • A ydych yn credu bod seilwaith rheilffyrdd Cymru yn ymdopi â’r nifer sy'n defnyddio trenau’n awr, a fydd yn gallu ymdopi yn y dyfodol, a sut y mae angen ei wella?
  • A yw Network Rail a phobl eraill sy'n cynllunio sut i weithredu, cynnal a chadw a gwella'r seilwaith rheilffyrdd yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion defnyddwyr o Gymru?
  • A oes unrhyw beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod penderfyniadau am y rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr yn gydgysylltiedig er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau bosibl yn y ddwy wlad. Mae hyn yn bwysig oherwydd nad yw ein rheilffyrdd yn dod i ben pan fyddant yn cyrraedd ffiniau.

O ran gwella traciau, gorsafoedd a rhannau eraill o’r seilwaith, mae penderfyniadau ynghylch lle i fuddsoddi yn cael eu gwneud yn eithaf pell o flaen llaw a chânt eu cyflwyno mewn cynlluniau pum mlynedd. Mae'r cynllun pum mlynedd nesaf yn dechrau yn 2019. Mae'r dewisiadau ynghylch sut a lle i fuddsoddi yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn awr ac rydym yn awyddus i ddylanwadu ar y rhain.

 

Gwyddom fod angen rheilffordd fodern ac effeithlon yng Nghymru i wella'r economi, a hefyd i helpu pobl i deithio am resymau eraill ee hamdden, ymweld â theulu neu fynd i'r ysbyty. Mae rheilffyrdd gwell nid yn unig yn gwneud bywyd yn haws i deithwyr, ond hefyd yn ei gwneud yn haws i fusnesau gludo nwyddau ar drenau.

 

Mae'r broses gynllunio yn dechrau gyda Network Rail sy'n gweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd ac eraill i gyhoeddi adroddiad sy'n awgrymu sut y gellir gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd. Hon yw 'Astudiaeth Llwybr Cymru' a chaiff y fersiwn derfynol ei chyhoeddi’n gynnar yn 2016.

 

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch yr arian a gaiff ei wario ar y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Patrick McLoughlin AS, yn esbonio’r hyn y mae am i’r rheilffordd ei gyflawni, y prosiectau mawr a gaiff eu rhoi ar waith, a faint o arian sydd ar gael. Nodir y rhain mewn dau adroddiad sy’n dwyn y teitl 'Manyleb Allbwn Lefel Uchel’ neu HLOS, a'r "Datganiad o’r cyllid sydd ar gael" neu SOFA. Bydd Network Rail wedyn yn ystyried sut y bydd yn cyflawni hyn, a bydd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn gwneud yn siŵr bod ei gynllun yn debygol o fod yn effeithiol. Rydym yn cynnal yr ymchwiliad hwn yn awr er mwyn medru cyflwyno adroddiad tra mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu trafod.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi arian yn y rhwydwaith rheilffyrdd, felly mae’r ymchwiliad hwn yn cynnwys penderfyniadau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Rhwng mis Tachwedd 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/11/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau