Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth y Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) er mwyn ymgynghori arno.  Ym mis Medi 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth ddrafft cychwynnol gweithredol o God Anghenion Dysgu Ychwanegol arfaethedig a chynllun amlinellol ar gyfer gweithredu'r system newydd arfaethedig ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar y Bil drafft gyda golwg ar gyflwyno'r Bil arfaethedig yn ystod y Pumed Cynulliad.

 

Mae’r erthygl a ganlyn yn darparu canllaw syml i ddarpariaethau a chefndir y Bil drafft.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gais am dystiolaeth a chynhaliodd ymchwiliad.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau