P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau i gyllid grŵp colegau NPTC a
sicrhau bod dyfodol addysgol y myfyrwyr yn ddiogel.
Myfyrwyr Grŵp NPTC, Campws y Drenewydd, ydym ni.
Roedd yr arian a gafodd grŵp colegau NPTC gan Lywodraeth Cymru 12% yn llai
ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, sy'n cyfateb i oddeutu £4 miliwn. Mae hyn
yn golygu ein bod wedi colli 50% o'n cyrsiau rhan amser a bod 80% o'r staff
wedi colli eu swyddi. Mae'n golygu hefyd y bydd cyrsiau llawn amser 50 o oriau
dysgu'n llai gan roi straen ar y myfyrwyr a'r staff. Mae dyfodol llawer o'n
myfyrwyr yn dibynnu ar y coleg a, hebddo, byddai ychydig iawn o obaith a
chyfleoedd fyddai gennym at y dyfodol. Byddai'n rhaid i fyfyrwyr hŷn dalu
tua £400 i fynd i'r coleg, sy'n cynnig dyfodol da iddynt yn hytrach na'u bod yn
ddibynnol ar y system fudd-daliadau. Bydd y toriadau hyn yn ei gwneud yn
amhosibl i rai greu dyfodol iddynt eu hunain
Gwybodaeth
ychwanegol
Ym Mhowys, mae cyfleoedd gwaith yn brin, a drwy fynd i'r
coleg mae modd cael y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hagen i gael
gwaith neu i gael lle mewn prifysgol. Nid yw cyrsiau Safon Uwch yn addas i
bawb. Mae angen plymwyr, bricwyr, gofalwyr a phobl sy'n gallu trin gwallt etc.
i sicrhau bod economi Canolbarth Cymru yn gynaliadwy ac y gall dyfu. Mae angen
eich cymorth chi arnom i sicrhau'n dyfodol ni a'ch dyfodol chithau.
Prif
ddeisebydd: NPTC Group Students
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 16 Mehefin
Nifer
y deisebwyr: 1,673 llofnod ar lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2015