P-04-638 Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad
Ceisio pŵer mynediad deddfwriaethol i'r Gwasanaeth
Ambiwlans a fyddai'n caniatáu i'w staff dorri i mewn i eiddo, wrth ymgymryd yn
gyfreithlon â'u dyletswyddau, er mwyn achub bywydau neu i achub pobl rhag niwed
difrifol
Gwybodaeth
ychwanegol
O dan ddeddfwriaeth bresennol, caiff y Gwasanaeth Tân
dorri i mewn i eiddo o dan adran 44 o Ddeddf
y Gwasanaethau Tân ac Achub ac mae gan yr Heddlu'r hawl i wneud hynny
hefyd o dan adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Nid yw'r
Gwasanaeth Ambiwlans wedi'i ddiogelu gan ddeddfwriaeth o'r fath ac, er
enghraifft, gall ateb galwad brys a chael hyd i glaf yn gorwedd ar lawr eiddo
sydd dan glo. Rhaid i'r Gwasanaeth Ambiwlans wedyn ofyn i'r Heddlu ddod i arfer
eu pŵer mynediad o dan Adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth
Droseddol. Mae hyn yn golygu bod yn
rhaid iddynt aros cyn cynorthwyo'r person sydd wedi'i anafu ac nad yw adnoddau
cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n ddoeth
Prif
ddeisebydd: Mr Fran Richley
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 16 Mehefin
Nifer
y deisebwyr: 67 llofnod ar lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2015