Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Pwrpas y Bil

Mae'r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd blaenoriaeth yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus.

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Tybaco a chynhyrchion nicotin

  • Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, gan sicrhau bod y defnydd o'r dyfeisiau hyn yn cyd-fynd â'r darpariaethau presennol ar gyfer ysmygu.
  • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.
  • Ychwanegu troseddau at y drefn Gorchymyn Mangreoedd o dan Gyfyngiad. (Mae'r Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco mewn mangre).
  • Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl dan 18 oed.

Triniaethau arbennig

  • Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.
  • Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed.

Gwasanaethau fferyllol

  • Newid y modd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o angen fferyllol yn eu hardaloedd.

Darpariaeth toiledau

  • Gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi strategaethau lleol ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau. 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF, 3MB) cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 ar 16 Mawrth 2016. Gwrthodwyd y cynnig i gymeradwyo’r Bil gan y Cynulliad. Gwrthodwyd y Bil hwn felly, ac ni ddaw’n Ddeddf.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  

Cyfnod

Dogfennau

 

Cyflwyno'r Bil: 8 Mehefin 2015

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 422KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 3MB)

 

Datganiad y Llywydd: 8 Mehefin 2015 (PDF, 159KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: Mehefin 2015 (PDF, 63KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd Cymru (Cymru): 8 Mehefin 2015

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): 9 Mehefin 2015

 

Datganiad o Fwriad Polisi - 11 Mehefin 2015 (PDF 1 MB)

 

Geirfa’r gyfraith (fersiwn Gymraeg yn unig) (PDF, 209KB)

 

Gohebiaeth gan y Llywydd ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): 23 Mehefin 2015 (PDF, 1 MB)

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 496KB)

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 4 Medi 2015.

 

Arolwg

Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol arolwg cyhoeddus, a ddaeth i ben ar 4 Medi 2015. Mae adroddiad cryno (PDF, 351KB) o’r canlyniadau ar gael.

 

Fideo

Casglodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol barn y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ar y darpariaethau yn Rhan 3 (Triniaethau arbennig). Mae gwybodaeth gefndir am y rhai a gymerodd ran (PDF,432KB) ar gael.

 

Dyddiadau Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

17 Mehefin 2015

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

25 Mehefin 2015

Y wybodaeth ddiweddaraf am y dull gweithredu ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

1 Gorffennaf 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Aelod sy’n gyfrifol)

1 Gorffennaf 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 1 Gorffennaf 2015

9 Gorffennaf 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

9 Gorffennaf 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 9 Gorffennaf 2015

15 Gorffennaf 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

15 Gorffennaf 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 15 Gorffennaf 2015

17 Medi 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

17 Medi 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 17 Medi 2015

23 Medi 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

23 Medi 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 23 Medi 2015

1 Hydref 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

1 Hydref 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 1 Hydref 2015

21 Hydref 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Aelod sy’n gyfrifol)

21 Hydref 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 21 Hydref 2015

5 Tachwedd 2015

Trafod yr adroddiad drafft (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

11 Tachwedd 2015

Trafod yr adroddiad drafft (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

19 Tachwedd 2015

Trafod yr adroddiad drafft (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

25 Tachwedd 2015

Trafod yr adroddiad drafft (preifat)

Eitem preifat

Eitem preifat

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  y  Bil ar y dyddiad canlynol:

Dyddiad ac Agenda

 

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Medi 2015

 

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Aelod sy’n gyfrifol)

 

21 Medi 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 21 Medi 2015

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiad canlynol:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

15 Gorffennaf 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Aelod sy’n gyfrifol)

15 Gorffennaf 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 15 Gorffennaf 2015

 

Adroddiadau’r Pwyllgorau ac ymatebion Llywodraeth Cymru

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 1MB)

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – 26 Ionawr 2016 (PDF, 180KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 476KB)

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – 26 Ionawr 2016 (PDF, 150KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid (PDF, 374KB)

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Cyllid - 7 Rhagfyr 2015  (PDF, 146KB)

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid – 26 Ionawr 2016 (PDF, 109KB)

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2015.

 

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2015.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 14 Ionawr 2016 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adrannau 2 i 39; Atodlen 1; Atodlen 2; Adrannau 40 i 44; Adrannau 46 i 77; Atodlen 3; Adran 45; Adrannau 78 i 95; Atodlen 4; Adrannau 96 i 102; Adran 1; Teitl Hir. 

 

Cynhaliwyd trafodaeth Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ddydd Iau 28 Ionawr a ddydd Mercher 3 Chwefror 2016.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2) (PDF, 447KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 2MB)

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 260KB)

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 3 Chwefror 2016 (PDF, 145KB)

Grwpio Gwelliannau: 3 Chwefror 2016 (PDF, 77KB)

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 28 Ionawr 2016 (PDF, 411KB)

Grwpio Gwelliannau: 28 Ionawr 2016 (PDF, 77KB)

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 9 Rhagfyr 2015 f4 (PDF, 151KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 9 Rhagfyr 2015 (PDF, 265 KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 14 Rhagfyr 2015 f3 (PDF, 67KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Rhagfyr 2015 f3 (PDF, 83KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 4 Ionawr 2016 (PDF, 76KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 8 Ionawr 2016 (PDF, 84KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Ionawr 2016 (PDF, 59KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Ionawr 2016 f2 (PDF, 75KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 18 Ionawr 2016 (PDF, 69KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Ionawr 2016 f2 (PDF, 246KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 19 Ionawr 2016 (PDF, 813KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 20 Ionawr 2016 f2 (PDF, 76KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Ionawr 2016 (PDF, 58KB)

 

Hysbysiadau Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF, 392KB)

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Yn dilyn cwblhau Cyfnod 2 o’r trafodion, dechreuodd Cyfnod 3 ar 4 Chwefror 2016.

 

Ar ddydd Mawrth 23 Chwefror 2016, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 3: Adrannau 2 – 31; Atodlenni 1 a 3; Adrannau 32 – 52; Atodlen 2; Adrannau 53 – 57; Adrannau 59 – 96; Atodlen 4; Adran 58; Adrannau 97 – 117; Atodlen 5; Adrannau 118 – 126; Adran 1; Teitl Hir.

 

Cynhaliwyd trafodaeth Cyfnod 3 ar ddydd Mawrth 8 Mawrth 2016. Barnwyd bod holl adrannau ac Atodlenni’r Bill wedi’u cytuno.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3) (PDF, 1MB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF, 49KB)

 

Gwelliannau i’w hystyried yng Nghyfnod 3

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 8 Mawrth 2015 f2 (PDF, 237KB)

Grwpio Gwelliannau: 8 Mawrth 2015 (PDF, 70KB)

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 17 Chwefror 2016 f2 (PDF, 72KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Chwefror 2016 (PDF, 83KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 25 Chwefror 2016 f2 (PDF, 83KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 26 Chwefror 2016 f3  (PDF, 190KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 26 Chwefror 2016 f2 (PDF, 342KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Chwefror 2016  (PDF, 64KB)

 

Hysbysiadau Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF, 235KB)

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd Cyfnod 4 ar 16 Mawrth 2016.

 

Gan fod y bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn gyfartal, fe ddefnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn erbyn y cynnig (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii)). Felly, ni dderbyniwyd y cynnig, a gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad.

 

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Catherine Hunt

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd     CF99 1NA

 

Ebost: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Gwrthodwyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/05/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau