Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cyhoeddwyd yr adroddiad (PDF, 1MB) ar ymchwiliad y Pwyllgor ar 9 Rhagfyr 2015. Cyhoeddwyd ymateb (PDF, 290KB) Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 17 Chwefror 2016.

 

Nod Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 oedd adeiladu ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg anstatudol blaenorol drwy roi sylfaen statudol i’r cynlluniau hyn. Rhoddodd y Ddeddf ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, llunio cynllun o’r fath a’i gyhoeddi er mwyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo a’i fonitro. Mae’r Ddeddf yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys darpariaethau mewn perthynas ag ymgynghori.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol fel rhan o’i ymchwiliad:

 

  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru;
  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);
  • Trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn);
  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill (er enghraifft polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw: iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio);
  • A yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel).

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ymatebion yr ymgynghoriad yma.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/05/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau