P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Testun y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:

I ddiweddaru "Llawlyfr y Swyddog Adolygu Annibynnol: Canllawiau statudol ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol ac awdurdodau lleol ar eu swyddogaethau mewn perthynas â rheoli ac adolygu achosion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal" i atal plant o dan 13 oed rhag sefydlu cyfrifon Facebook;

Y dylid trafod pryderon sy'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol fel rhan o'r Adolygiad Statudol;

Y dylai plant gael eu caniatáu / hannog i gynnwys rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'u teulu fel ffrindiau ar Facebook;

Y dylai darpariaethau adrodd gael eu gwneud i Lywodraeth Cymru;

Y dylai'r canllawiau cyfredol sy'n nodi y dylai'r defnydd o gyfrifiaduron gael ei fonitro o bryd i'w gilydd, gael ei uwchraddio i ofyniad statudol yn wythnosol (o leiaf).

Gwybodaeth ychwanegol

Pan fydd unigolion yn sefydlu cyfrifon Facebook, gofynnir iddynt ardystio eu bod yn o leiaf 13 oed drwy roi dyddiad geni.  Os bydd y dyddiad geni yn dangos eu bod yn iau, cânt eu hatal rhag parhau.  Mae pryderon wedi cael eu codi gan David Cameron, NSPCC, yr heddlu a sefydliadau eraill yn ymwneud â phlant dan oed yn cael mynediad at Facebook.  Er gwaethaf yr uchod, mae awdurdodau lleol yn fwriadol yn caniatáu i blant sy'n agored i niwed, mor ifanc â 9 oed, gael cyfrif Facebook a chael mynediad at gyfryngau cymdeithasol eraill. 

 

• ffugio oedran

• gosodiadau preifatrwydd heb eu gosod

• plant yn nodi eu manylion cyswllt

• hysbysebu ble maent

• 'sexting' (term Saesneg)

• ffrindiau ddim yn briodol o ran oedran neu'n anhysbys i'r gofalwyr / teulu

• Gall y statws 'like', ffrindiau a miloedd o ddilynwyr arwain at negeseuon o natur grai / rywiol

Risgiau

• Proffiliau ffug

• Cynnwys neu gyngor anghyfreithlon / niweidiol

• Bwlio, stelcio, meithrin perthynas amhriodol ar y rhyngrwyd, rhannu cynnwys

• Preifatrwydd gwybodaeth - casglu data personol gan blant

• Marchnata cynnyrch anghyfreithlon ac sy'n gyfyngedig o ran oedran - gamblo, dod o hyd i gariad ar y rhyngrwyd, bwyd a diodydd

 

Prif ddeisebydd: Christine Williams 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion: 11

 

Math o fusnes: Gwelliant

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/05/2015

Dogfennau