P-04-627 Gwell Gwasanaethau Trên i Gymudwyr ar gyfer Trigolion Gogledd Cymru
Er bod prisiau tocynnau trenau ar draws gogledd Cymru
wedi codi'n uwch na chyfradd chwyddiant dros nifer o flynyddoedd diweddar,
mae'r gwasanaeth a gynigir i gymudwyr wedi lleihau.
Yn benodol, mae'r gwasanaeth a gynigir ar adegau sy'n
gyfleus i'r rhan fwyaf o gymudwyr i Fangor - cartref un o brifysgolion mwyaf
Cymru, ac ysbyty mawr hefyd (yn ogystal â gorsaf reilffordd brysuraf gogledd
Cymru o ran nifer y teithwyr!) - wedi cael ei dorri'n sylweddol yn ystod y ddwy
flynedd ddiwethaf.
Yn benodol, rydym yn galw am ailgyflwyno'r gwasanaeth
rhwng Caer a Bangor, gwasanaeth a arferai gyrraedd Bangor am 09.36. (Yn
eironig, er bod y gwasanaeth hwn wedi ei dorri yn ystod dyddiau'r wythnos,
mae'n dal i redeg ar ddydd Sadwrn!).
Prif
ddeisebydd: Professor Tom Rippeth
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 36 llofnod
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015