Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru
Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru
Cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru ei chynllun
ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2018 ar 6
Tachwedd 2014.
Gan gydnabod y rôl hollbwysig
a chwaraeir gan feddygon teulu ym maes gofal sylfaenol, a phryderon a fynegwyd
am gynaliadwyedd y gweithlu meddygon teulu, wnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru cynnal ymchwiliad byr i'r gweithlu meddygon teulu
yng Nghymru. Nod y gwaith oedd ceisio llywio datblygiad cynllun datblygu
gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru.
Wnaeth yr ymchwiliad yn
ystyried materion mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru, sy'n ymwneud â:
- hyfforddiant meddygon teulu (cyrsiau gradd, ôl-radd a lleoliadau
myfyrwyr);
- rhwystrau i recriwtio a chadw meddygon teulu;
- y camau sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu meddygon
teulu.
Wnaeth y Pwyllgor glywed
tystiolaeth
lafar ar 29 Ionawr 2015.
Casglu tystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan:
- BMA
Cymru (PDF, 533KB)
- Coleg
Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (PDF, 150KB)
- Deoniaeth
Cymru (PDF, 198KB)
Llythyr y Pwyllgor
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 234KB)
ym mis Chwefror 2015. Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 115KB) ym mis Mawrth
2015.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2014
Dogfennau