Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru

Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol yng Nghymru hyd at fis Mawrth 2018 ar 6 Tachwedd 2014.

Gan gydnabod y rôl hollbwysig a chwaraeir gan feddygon teulu ym maes gofal sylfaenol, a phryderon a fynegwyd am gynaliadwyedd y gweithlu meddygon teulu, wnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru cynnal ymchwiliad byr i'r gweithlu meddygon teulu yng Nghymru. Nod y gwaith oedd ceisio llywio datblygiad cynllun datblygu gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru.

Wnaeth yr ymchwiliad yn ystyried materion mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru, sy'n ymwneud â:

  • hyfforddiant meddygon teulu (cyrsiau gradd, ôl-radd a lleoliadau myfyrwyr);
  • rhwystrau i recriwtio a chadw meddygon teulu;
  • y camau sydd eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu meddygon teulu.

 

Wnaeth y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar ar 29 Ionawr 2015.

Casglu tystiolaeth

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Llythyr y Pwyllgor

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 234KB) ym mis Chwefror 2015. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 115KB) ym mis Mawrth 2015.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2014

Dogfennau