Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Bil Llywodraeth a gyflwynwyd gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae Bil Cymwysterau Cymru (‘y Bil’) yn darparu ar gyfer sefydlu Cymwysterau Cymru fel y corff rheoleiddiol annibynnol sy’n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu ac adolygu a chymeradwyo cymwysterau yng Nghymru nad ydynt ar lefel gradd.

 

Diben y Bil yw mynd i’r afael â phedwar prif gyfyngiadau y system bresennol, a amlinellir fel a ganlyn:

 

  • y ffaith nad oes yna un sefydliad penodol sy'n ymroddedig i sicrhau effeithiolrwydd cymwysterau a'r system gymwysterau;
  • nad oes unrhyw bwerau i roi blaenoriaeth i rai cymwysterau a thrwy hynny sicrhau bod modd canolbwyntio ar y cymwysterau y mae angen eu rheoleiddio fwyaf;
  • nad oes unrhyw bwerau i ddewis un darparwr ar gyfer cymhwyster penodol i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cymryd yr un cymhwyster;
  • nad oes digon o gapasiti i hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu cymwysterau yn strategol o fewn y trefniadau cyfredol.

 

Mae'r Bil yn rhoi'r prif amcanion canlynol i Gymwysterau Cymru, a bydd yn rhaid iddo weithredu'n gydnaws â'r rhain wrth gyflawni ei swyddogaethau:

 

  • Sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn llwyddo'n effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
  • Ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

 

Mae’r erthygl ganlyn yn rhoi canllaw syml i ddarpariaethau a chefndir y Bil.

 

Geirfa'r Gyfraith (PDF, 150KB)

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Cymwysterau Cymru 2015 yn gyfraith yng Nghymru ar 5 Awst 2015.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 1 Rhagfyr 2014

Bil Cymwysterau Cymru, fel y’i gyflwynwyd (PDF, 234KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.09MB)

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 1 Rhagfyr 2014 (PDF, 123KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 1 Rhagfyr 2014 (PDF, 45.2KB)

 

Datganiad ynglyn â Bwriad Polisi (PDF, 95.9KB)

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

11 Rhagfyr 2014

14 Ionawr 2015

22 Ionawr 2015

28 Ionawr 2015

5 Chwefror 2015

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 616KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 364KB)

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2015. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cymwysterau Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2015.

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 25 Mawrth 2015 (PDF, 61.4KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 25 Mawrth 2015 (PDF, 153KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Ebrill 2015 (PDF, 144KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 21 Ebrill 2015 (PDF, 510KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Ebrill 2015 (PDF, 62.9KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 23 Ebrill 2015 (PDF, 71.4KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 30 Ebrill 2015 (PDF, 168KB)

Grwpio Gwelliannau: 30 Ebrill 2015 (PDF, 60.7KB)

Bil Cymwysterau Cymru - fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 308KB)

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 1.43MB)

Y Gwasanaeth Ymchwil: Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 (PDF, 248KB)

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Mae’r drafodaeth Cyfnod 3 wedi’i haildrefnu ac fe’i cynhelir bellach ar ddydd Mawrth 16 Mehefin 2015 (trefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 9 Mehefin).

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Mai 2015 (PDF, 83.1KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 29 Mai 2015 (PDF, 114KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 1 Mehefin 2015 (PDF, 54.4KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 2 Mehefin 2015 (PDF, 60.6KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 16 Mehefin 2015 (PDF, 94KB)

Grwpio Gwelliannau: 16 Mehefin 2015 (PDF, 60.9KB)

 

Bil Cymwysterau Cymru - fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3 (PDF, 260KB)

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 16 Mehefin 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil Cymwysterau Cymru - fel y'i Pasiwyd (PDF, 307KB)

 

Bil Cymwysterau Cymru, fel y’i pasiwyd (Crown XML)

Post-stage 4

Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben.  Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

 

Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol (PDF, 165KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 30.8KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i’w hysbysu na fydd yn cyfeirio’r Bil Cymwysterau Cymru i’r Goruchaf Lys o dan Adran 112 nac Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Cydsyniad Brenhinol

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 165KB) ar 5 Awst 2015

 

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Clerc: Gareth Rogers

Ffôn: 0300 200 6565

E Bôst: Cysylltu@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau