P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn
P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn
Mae’r adeilad hanesyddol hwn a’i diroedd ar werth.
Cymaint yw pwysigrwydd yr adeilad a’r tir hwn i Gymru a’i hanes nes ein hysgogi
i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn sy’n iawn a diogelu Garth Celyn ar
gyfer pobl Cymru unwaith ac am byth. Tua’r flwyddyn 1200, adeiladodd y Tywysog
Llywelyn ap Iorwerth gartref brenhinol yng Ngarth Celyn. Ar ochr ddwyreiniol y
Llys roedd Mynachlog Sistersaidd Aberconwy a oedd newydd ei freintio; ac ar yr
ochr orllewinol roedd dinas gadeiriol Bangor. Rhwng Garth Celyn a’r lan roedd y
tir amaethyddol ffrwythlon yn darparu bwyd ar gyfer y teulu brenhinol,
aelodau’r llys, a’r gymuned leol. Roedd digonedd o bysgod yn y môr a’r afon a
thoreth o helgig i’w gael yn yr ucheldir.
Roedd pentref Aber Garth Celyn ar ochr orllewinol yr afon
yn lle prysur a ffyniannus. Rhoddwyd bwyd a llety yn y dyffryn i deithwyr oedd
yn crwydro ar draeth peryglus Traeth Lafan. Roedd nwyddau a gludwyd dros y môr
i Borthladd Llanfaes yn cael eu dosbarthu i fannau eraill ar y tir mawr oddi
yma. Gyrrwyd yr anifeiliaid yn ôl ac ymlaen i’r mynyddoedd ar hyd y llwybr hwn.
Cludwyd grawn i’r felin.
Daeth y gymuned i’r gwasanaethau yn yr eglwys. Roedd
pererinion o bell ac agos yn cerdded ar hyd y llwybr a byddent yn cael saib i
gael lluniaeth yng Ngharth Celyn. Daeth Beirdd yno i adrodd barddoniaeth a oedd
yn dwyn i gof weithredoedd yr arwyr a’r amddiffynwyr mawr.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Rhan o lythyr gan Llywelyn, Tywysog Cymru i John Peckham,
Archesgob Caergaint. Garth Celyn, Tachwedd 1282. I’r tad parchedicaf yng
Nghrist, yr Arglwydd John, trwy Ras Duw, Archesgob Caergaint, Archesgob Holl
Loegr, gan ei fab gostyngedig a ffyddlon, Llywelyn, tywysog Cymru, arglwydd yr
Wyddfa, cyfarchion ac anwyldeb mabol i chwi, gyda phob dull o barch, cyflwyniad
ac anrhydedd. Ar gyfer y llafur trwm y mae eich tad sanctaidd wedi ymgymryd ag
ef yn awr, o’r cariad rydych yn ei roi i ni a’n cenedl, rydym yn diolch yn
fawr, yn fwy byth, oherwydd yr ydych wedi ymddiried ynom, rydych yn mynd yn
groes i ewyllys y brenin. Rydych yn gofyn i ni i ddod yn heddwch y brenin.
Dylai eich sancteiddrwydd wybod ein bod yn barod i wneud hynny, ar yr amod y
bydd y brenin arglwydd yn wir yn arsylwi yr un heddwch â sy’n ddyledus i ni a’n
pobl.
Rydym yn llawenhau bod yr ysbaid hon a roddwyd i Gymru
wedi’i roi gennych chi ac na fyddwch yn canfod unrhyw rwystrau gennym ni ar
ffordd tangnefedd, am y byddai’n well gennym gefnogi eich ymdrechion chi yn
hytrach nag ymdrechion unrhyw un arall. Gobeithiwn, gyda bendith Duw, na fydd
dim angen i chi ysgrifennu unrhyw beth at y pab am ein dyfalbarhad, ac na
fyddwch yn canfod ein bod yn gwrthod eich erfyniadau tadol a’ch ymdrechion
egnïol, yn wir, croesawn hwy gyda holl gynhesrwydd ein calon. Nid yw ychwaith
yn angenrheidiol i’r brenin bwyso a mesur ymhellach yn ein herbyn, gan ein bod
yn gwbl barod i fod yn ufudd iddo ef, sydd bob amser yn eiriol dros ein hawliau
a’n cyfreithiau, hawl a ganiateir yn gyfreithiol i ni.
Prif
ddeisebydd: Kevin Bates
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 650 llofnod a’r
lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2014