P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Wedi'i gwblhau

Gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod ysgolion yn rhydd i ddefnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb ymyrraeth gan gyrff fel awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, a heb fygythiad o gael eu cosbi drwy'r prosesau arolygu ysgolion, dyfarniadau perfformiad a bandio.

Mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru a'u consortia yn argymell na ddylai ysgolion ddefnyddio eu pwerau statudol o dan y ddeddfwriaeth uchod, gan adael mwy o deuluoedd yn agored i'r bygythiad o hysbysiadau cosb o dan Reoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 nag a fyddai wedi bod fel arall. Gwneir yr argymhellion hyn ar y sail eu bod yn gallu gwella cyrhaeddiad er gwaethaf y diffyg tystiolaeth bod absenoldeb o'r math a ganiateir o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn arwain at gyrhaeddiad gwaeth.

Ar hyn o bryd gellir cosbi ysgolion yng Nghymru trwy'r prosesau arolygu, dyfarniadau perfformiad a bandio ysgolion am awdurdodi absenoldebau cyfreithlon fel salwch, gwyliau teuluol neu ddigwyddiadau ac achosion eraill sy'n galluogi teuluoedd i gymryd rhan lawn mewn bywyd teuluol preifat arferol.

Mae'r argymhellion a'r prosesau hyn yn gogwyddo ysgolion yn erbyn awdurdodi absenoldeb cyfreithlon, ac yn gwneud ysgolion yn amharod i arfer eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010. Gall hyn niweidio'r berthynas rhwng y cartref a'r ysgol a lles plant. Lle bydd teulu yn anghytuno â'r penderfyniad i wrthod awdurdodi absenoldeb ar sail cydraddoldeb, hawliau dynol neu les plant does dim llwybr apêl annibynnol. Lle mae teulu yn anwybyddu'r penderfyniad i wrthod awdurdodi absenoldeb gall hynny arwain at hysbysiad cosb a throseddoli posibl. Ceir effaith economaidd ar y diwydiant twristiaeth a hamdden yng Nghymru sy'n darparu cyflogaeth ac incwm i lawer o'n teuluoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Rheoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhoi pŵer disgresiynol i ysgolion i awdurdodi hyd at 10 diwrnod o absenoldeb yn ystod y flwyddyn ysgol ar gyfer gwyliau teuluol a mwy na 10 diwrnod o absenoldeb mewn amgylchiadau eithriadol.

Cynghorir ysgolion yn erbyn defnyddio'r pŵer hwn gan eu hawdurdodau lleol. Maent yn teimlo dan bwysau i wella ffigurau presenoldeb ysgolion gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru,  a all eu cosbi os yw presenoldeb yn is na lefel benodol.

Mae'r ymgyrch i wella presenoldeb yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Mae hyn yn gor-symleiddio mater cymhleth iawn. Mae presenoldeb a chyrhaeddiad yn gysylltiedig ond ni phrofwyd bod cysylltiad achosol. Mae ymchwil yn dangos nad yw absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn effeithio ar gyrhaeddiad ar lefel ysgol gynradd, a bod rhywfaint o absenoldeb yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar lefel ysgol uwchradd. ("Proffil o Absenoldeb Disgyblion, 2011, DfE").

Gall penderfyniad ysgol i wrthod awdurdodi absenoldeb a ganiateir o dan y gyfraith niweidio o ddifrif y berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, yn enwedig os bydd y teulu yn credu bod yr absenoldeb yn bwysig i les eu plentyn, ac yn cymryd eu plentyn o'r ysgol beth bynnag. Gall y teulu gael hysbysiad cosb (dirwy) neu gael eu troseddoli.

Mae llawer o resymau dilys pam bod plant a theuluoedd angen yr hyblygrwydd i fod yn absennol o'r ysgol yn ystod amser tymor.  Mae hynny'n cynnwys anhawster i gael gwyliau blynyddol yn ystod gwyliau'r ysgol, digwyddiadau teuluol pwysig, yn byw'n bell o rieni dibreswyl, neiniau a theidiau, a theulu estynedig. Mae teuluoedd sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth a hamdden yng Nghymru wedi teimlo effaith economaidd sylweddol o'r gwaharddiad ar wyliau amser tymor yn Lloegr eleni. Nododd Adroddiad Plentyndod Da 2014 bod yr ysgol yn ddim ond un o'r deg agwedd ar fywyd sy'n cael y dylanwad mwyaf ar les plant. Y lleill oedd y teulu, y cartref, sefyllfa ariannol, ffrindiau, iechyd a dewis.

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn ystod y tymor.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/12/2014.

 

Prif ddeisebydd: Pembs Parents Want a Say/Rhieni Pembs eisiau cael dweud

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion:    812  llofnod a’r lein

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/10/2014