P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu.
Er mai meddygon teulu sy'n cynnal 90% o'r holl
ymgynghoriadau â chleifion y GIG, dim ond 8.39% o gyllideb y GIG yn y DU a
gaiff ei ddyrannu iddynt - y ganran isaf erioed. Erbyn 2017, rhagwelir y bydd
hyn yn gostwng i 7.29% .
O ganlyniad, mae'r gwasanaeth meddygon teulu yn wynebu
argyfwng cynyddol.
Oherwydd llwyth gwaith affwysol ein meddygon teulu,
eleni'n unig, bydd yn rhaid i gleifion aros dros wythnos i weld eu meddyg teulu
mewn o leiaf 27 miliwn o achosion.
Ac, yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym mis Mawrth, mae mwy na
thri o bob pump yn awr yn credu bod nifer yr ymgynghoriadau a gaiff meddyg
teulu â'i gleifion - hyd at 60 y dydd - yn bygwth safon y gofal a gaiff y claf.
I sicrhau gwasanaeth o safon i bob claf, galwaf ar Brif
Weinidog Cymru i godi'r gyfran o gyllideb y GIG a gaiff ei gwario ar y
gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru i 11% erbyn 2017.
Byddai'r cynnydd hwn yn galluogi meddygfeydd i sicrhau:
Nad oes yn rhaid aros mor hir am apwyntiadau a bod modd
cynnig oriau agor mwy hyblyg
Ymgynghoriadau hirach, yn enwedig i gleifion sydd â
chyflyrau tymor hir
Mwy o gyfle i gleifion weld meddyg teulu sy'n eu hadnabod
Cynllunio a chydgysylltu gofal yn well, yn enwedig i'r
henoed a chleifion ag anghenion cymhleth
Manteision a fydd yn gwella'r GIG yn gyffredinol, gan
leihau'r baich ar yr ysbytai
Mae meddygfeydd yn rhan ganolog o gymunedau lleol. Galwaf
ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n awr i sicrhau bod gan feddygfeydd yr adnoddau
sydd eu hangen arnynt i barhau i ddarparu gofal o'r safon uchel y mae cleifion
yn ei haeddu.
Deisebydd: Royal College of General
Practitioners.
Prif
deisebydd: Eurwen Pettiti
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 7 Hydref 2014
Nifer
o llofnod:15,000 llofnod papur a mwy na 500 a’r lein a’r e-wefan
deiseb arall.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2014