P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Simon Thurlow, ar ôl casglu
1,196 llofnod a’r lein.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen
â’u gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus
caeedig, mannau cyhoeddus sylweddol gaeedig, a gweithleoedd yng Nghymru. Ni all
y cynnig hwn, os caiff ei weithredu, ond arwain at ostyngiad yn y nifer a fydd
yn defnyddio e-sigaréts a chynnydd yn y nifer a fydd yn ysmygu sigaréts.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae100,000 o bobl yng Nghymru yn defnyddio e-sigaréts
eisoes. Mae’r rhain yn ysmygu llai o sigaréts neu nid ydynt yn ysmygu sigaréts
o gwbl; dylai hyn fod yn achos dathlu, nid yn achos pryder. Yn ôl arolwg a
gynhaliodd y BBC yn ddiweddar, mae 62% o’r cyhoedd yn gwrthwynebu gwahardd
defnyddio e-sigaréts yn gyhoeddus. Yn Sbaen, lle gwaharddwyd defnyddio
e-sigaréts yn gyhoeddus, bu gostyngiad o 70% yn y defnydd o e-sigaréts a
chynnydd yn y nifer a oedd yn ysmygu. Rydym yn ofni y bydd yr un peth yn
digwydd yng Nghymru os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi eu gwaharddiad
arfaethedig ar waith. O gofio y bydd hysbysebu a hyrwyddo e-sigaréts yn cael ei
wahardd yn fuan ar ôl pasio’r Gyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco, ble fydd ysmygwyr
yn cael gwybodaeth am e-sigaréts, yn enwedig os ydynt yn cael eu gwahardd mewn
mannau cyhoeddus? Mae angen i ysmygwyr weld pobl yn defnyddio e-sigaréts yn
gyhoeddus, mae angen iddynt fedru mynd at y rhai sy’n defnyddio e-sigaréts i
siarad â nhw a chael rhagor o wybodaeth ac yna dewis defnyddio sigaréts mwy
diogel, gobeithio.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/10/2014.
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2014