P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru, drwy adfer y cyllid craidd. Rhaid i Gymru gael llwyfan cenedlaethol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n cael ei arwain gan ieuenctid a’i ariannu’n gyhoeddus, ac sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd ar lefel leol, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw leisio’u barn a’u safbwyntiau, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n atebol. Rhaid bod gan y llwyfan cenedlaethol hwnnw’r grym i weithio gyda’r holl Aelodau etholedig i hyrwyddo materion plant a phobl ifanc, ac i adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, fel y llwyddodd Draig Ffynci i wneud yn 2008.

 

 Mae’r Ddraig Ffynci yn parhau i gredu fel a ganlyn:

1. Y dylai pobl ifanc, a etholir yn ddemocrataidd yn lleol, gael llwyfan cenedlaethol i leisio eu safbwyntiau a’u barn;

2. Y dylid galw’r llwyfan hwnnw yn Gynulliad Ieuenctid Cymru;

3. Y dylai allu gweithio gyda phob Aelod Etholedig, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol er mwyn datblygu materion pobl ifanc;

4. Y dylid ei gefnogi fel y gall pobl ifanc Cymru adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

Dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, wrth wneud sylw ar adroddiad diwethaf y DU, (sylw terfynol 33), y dylai fforymau cymorth llywodraethau ar gyfer cyfranogiad plant, fel Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig, y Ddraig Ffynci yng Nghymru a’r Senedd Ieuenctid yn yr Alban, gael eu gweithredu.

 

Prif ddeisebydd       Catherine Patricia Jones 

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion: 1,212 a’r lein a 429 llofnod papur. Cyfanswm 1,641

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014