P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol
Mae cangen UNSAIN Castell-nedd Port Talbot yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig o hyd at 4.5% yn y
gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol.
Mae cyllidebau Llywodraeth Leol wedi’u hymestyn i’r
eithaf, a bydd unrhyw doriadau pellach yn cael effaith ddinistriol ar
wasanaethau lleol y mae’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn dibynnu arnynt.
Bydd toriadau i wasanaethau llywodraeth leol yn rhoi pwysau pellach ar y GIG,
sydd eisoes wedi’i orlwytho. Mae’r toriadau yn rhai cibddall, ac ni fydd yr
arian sy’n cael ei ddargyfeirio o lywodraeth leol i’r GIG yn cael yr effaith a
ddymunir. Mae gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yn cael effaith
gadarnhaol ar gadw pobl allan o ysbytai, ac mae cynnal y gwasanaethau hyn yn
hanfodol er mwyn lleddfu’r pwysau ar y GIG.
Prif
ddeisebydd UNISON
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 178
Trafodwyd
y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014