P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed

P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed

Mae rhoi gwaed yn rhywbeth anrhydeddus a defnyddiol i rywun ei wneud yn y wlad hon i helpu pobl sydd ei angen yn fawr iawn. Fodd bynnag, dydy pawb ddim yn gymwys i roi gwaed. Mae rhai o’r rhesymau am hyn yn ddealladwy iawn, ond mae un rheswm nad yw’n ddealladwy o gwbl. Nid oes caniatâd i ddynion hoyw roi gwaed os ydynt wedi cael cyfathrach rywiol â rhywun yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny’n anghywir ac yn annheg. Mae’r GIG yn bryderus y caiff gwaed ei heintio ag HIV/AIDS. Fodd bynnag, gall unrhyw un fod ag AIDS, nid dynion hoyw yn unig. Mae’r holl waed yn cael ei brosesu a’i brofi cyn ei gynnig beth bynnag. Felly, does dim rheswm pam y dylai dyn hoyw ymatal am flwyddyn er mwyn gwneud y peth anrhydeddus hwn. Mae angen i’r anghydraddoldeb hwn ddod i ben nawr, a rhaid ni roi’r opsiwn o roi gwaed i bobl o bob cyfeiriadedd rhywiol.

 

Prif ddeisebydd: Scott Dymond

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion: 83

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014