Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau

Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau o'r Senedd adnoddau teg a phriodol i gyflawni eu swydd hanfodol o gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.  Mae'r rheolau sy'n ymwneud â beth sydd ganddynt yr hawl i wneud cais amdano yn cael eu cynnwys yn y Penderfyniad.

 

Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer 2020

Mae’r Bwrdd yn trafod yn rheolaidd a oes angen newidiadau i’r Penderfyniad cyn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn sicrhau bod y pecyn taliadau’n ddigonol.

 

Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau

Fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau, mae’r Bwrdd wedi adolygu’r dystiolaeth sy'n ymwneud â'r lwfansau staffio a ddarperir i Aelodau, i sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael yn cefnogi diben strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith ei Aelodau, ynghyd â sicrhau bod y system cymorth ariannol i Aelodau yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr. Yn dilyn ymgynghoriad mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y newidiadau canlynol i’r Penderfyniad.

Aelodau Unigol

  • Cyllidebu’r Lwfans Staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach nag ar sail cyfanswm y gost fwyaf (o fis Ebrill 2019);
  • cyhoeddi cyfanswm gwariant pob Aelod unigol o’i Lwfans Staffio (o fis Ebrill 2019).
  • dileu’r cap o 111 awr ar Staff Cymorth a gyflogir ar sail barhaol (o fis Hydref 2018)
  • caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w Lwfans Staffio yn ogystal â’u lwfans Cronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu (gweithredu fesul cam o fis Hydref 2018 tan fis Ebrill 2019).

Pleidiau Gwleidyddol

  • cyllidebu’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach nag ar sail cyfanswm y gost fwyaf (o fis Ebrill 2019);
  • cyhoeddi cyfanswm gwariant pob Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol(o fis Ebrill 2019);
  • dileu’r ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu ar gyfer trosglwyddo arian o Lwfans Staffio’r Aelod i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar gyfer y Chweched Cynulliad. Gall Aelodau sydd eisoes wedi sefydlu trosglwyddiad o’r fath barhau i wneud hynny tan ddiwedd y Pumed Cynulliad. Fodd bynnag, ni chaniateir trefniadau trosglwyddo newydd rhwng y lwfansau hyn.

Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad 

Mae’r Bwrdd yn trafod yn rheolaidd a oes angen newidiadau i’r Penderfyniad cyn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn sicrhau bod y pecyn taliadau’n ddigonol. Yn ystod mis Chwefror 2018, ymgynghorodd y Bwrdd ar y canlynol ar gyfer Penderfyniad 2018-19:

  • cynnydd 2.3 y cant yng nghyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 yn unol â ffigurau dros dro 2017 ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.
  • cynnydd 5 y cant yn y lwfans costau swyddfa yn unol â chyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2017 ac ymdrin â’r costau ychwanegol y disgwylir i’r Aelodau eu hariannu o’u cyllideb;
  • cynnig lwfans heb derfyn uchaf a gaiff ei gyfyngu i’r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i’r Aelodau roi argymhellion diogelwch ar waith.

Trafododd y Bwrdd yr ymateb yn ei gyfarfod ym mis Mawrth a chytunodd i roi’r newidiadau ar waith o 1 Ebrill 2018.

Effeithiolrwydd y Penderfyniad

Yn 2017, cyhoeddodd y Bwrdd arolwg i holl Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad yn ceisio eu barn am effeithiolrwydd y Penderfyniad. Caiff y canlyniadau eu defnyddio gan y Bwrdd i lywio ei waith yn y dyfodol ar y Penderfyniad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r canlyniadau yn adroddiad blynyddol y Bwrdd 2017-18.

Math o fusnes: Arall

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/08/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau