Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau
Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau
o'r Senedd adnoddau teg a phriodol i gyflawni eu swydd hanfodol o gynrychioli
buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi Cymru a
dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'r
rheolau sy'n ymwneud â beth sydd ganddynt yr hawl i wneud cais amdano yn cael
eu cynnwys yn y Penderfyniad.
Adolygiad blynyddol o’r
Penderfyniad ar gyfer 2020
Mae’r Bwrdd yn trafod yn
rheolaidd a oes angen newidiadau i’r Penderfyniad cyn y flwyddyn ariannol nesaf
er mwyn sicrhau bod y pecyn taliadau’n ddigonol.
Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau
Fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r
Aelodau, mae’r Bwrdd wedi adolygu’r dystiolaeth sy'n ymwneud â'r lwfansau
staffio a ddarperir i Aelodau, i sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael yn
cefnogi diben strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith ei Aelodau, ynghyd â
sicrhau bod y system cymorth ariannol i Aelodau yn gadarn, yn glir, yn dryloyw,
yn gynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr. Yn dilyn
ymgynghoriad mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y newidiadau canlynol i’r Penderfyniad.
Aelodau Unigol
- Cyllidebu’r
Lwfans Staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach nag ar sail
cyfanswm y gost fwyaf (o fis Ebrill 2019);
- cyhoeddi cyfanswm
gwariant pob Aelod unigol o’i Lwfans Staffio (o fis Ebrill 2019).
- dileu’r cap
o 111 awr ar Staff Cymorth a gyflogir ar sail barhaol (o fis Hydref 2018)
- caniatáu
i’r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w
Lwfans Staffio yn ogystal â’u lwfans Cronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu
(gweithredu fesul cam o fis Hydref 2018 tan fis Ebrill 2019).
Pleidiau Gwleidyddol
- cyllidebu’r
Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol yn
hytrach nag ar sail cyfanswm y gost fwyaf (o fis Ebrill 2019);
- cyhoeddi
cyfanswm gwariant pob Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol(o fis Ebrill 2019);
- dileu’r ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu ar gyfer
trosglwyddo arian o Lwfans Staffio’r Aelod i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol ar gyfer y Chweched Cynulliad. Gall Aelodau sydd eisoes wedi
sefydlu trosglwyddiad o’r fath barhau i wneud hynny tan ddiwedd y Pumed
Cynulliad. Fodd bynnag, ni chaniateir trefniadau trosglwyddo newydd rhwng
y lwfansau hyn.
Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad
Mae’r Bwrdd yn trafod yn rheolaidd a oes angen newidiadau i’r Penderfyniad
cyn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn sicrhau bod y pecyn taliadau’n ddigonol.
Yn ystod mis Chwefror 2018, ymgynghorodd y Bwrdd ar y
canlynol ar gyfer Penderfyniad 2018-19:
- cynnydd 2.3
y cant yng nghyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 yn unol â ffigurau
dros dro 2017 ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru yr Arolwg Blynyddol
o Oriau ac Enillion.
- cynnydd 5 y
cant yn y lwfans costau swyddfa yn unol â chyfradd y Mynegai Prisiau
Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2017 ac ymdrin â’r costau ychwanegol y
disgwylir i’r Aelodau eu hariannu o’u cyllideb;
- cynnig lwfans heb derfyn uchaf a gaiff ei gyfyngu i’r meini prawf a
ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i’r Aelodau roi argymhellion diogelwch
ar waith.
Trafododd y Bwrdd yr ymateb yn ei gyfarfod ym mis Mawrth a chytunodd
i roi’r newidiadau ar waith o 1 Ebrill 2018.
Effeithiolrwydd y Penderfyniad
Yn 2017, cyhoeddodd y Bwrdd arolwg i holl Aelodau’r Cynulliad a staff
cymorth Aelodau’r Cynulliad yn ceisio eu barn am effeithiolrwydd y Penderfyniad.
Caiff y canlyniadau eu defnyddio gan y Bwrdd i lywio ei waith yn y dyfodol ar y
Penderfyniad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r canlyniadau yn adroddiad blynyddol y Bwrdd 2017-18.
Math o fusnes: Arall
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/08/2014
Dogfennau
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Ebrill 2020
PDF 15 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Ebrill 2019
PDF 684 KB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Hydref 2018
PDF 1 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Mai 2018
PDF 1 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Mai 2017
PDF 2 MB
- Strategaeth y Bwrdd Taliadau ar gyfer 2016-2021
PDF 9 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Mai 2016
PDF 11 MB
- Adroddiad Etifeddiaeth - Medi 2015
PDF 3 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Ebrill 2015
PDF 2 MB
- Ymatebion i ymgynghoriad - Lwfansau Aelodau Cynulliad
PDF 584 KB Gweld fel HTML (10) 60 KB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Awst 2014
PDF 1 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Gorffennaf 2013
- Newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ynghylch y lwfansau i Aelodau'r Pumed Cynulliad
PDF 2 MB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Rhagfyr 2012
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau (Rhif 2) - Gorffennaf 2011
PDF 548 KB
- Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau - Mawrth 2011
Ymgynghoriadau