P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau i
Awdurdodau Lleol o ran penaethiaid ysgolion yn gallu awdurdodi absenoldeb ar gyfer
gwyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae llawer o deuluoedd o gefndiroedd tlawd,
na allant fforddio mynd ar wyliau yn ystod y tymor, oherwydd bod gwyliau tua
60% yn ddrutach yn ystod y cyfnod gwyliau. Hefyd, mae llawer o deuluoedd lle
mae’r rhieni yn gweithio yn methu cymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r
ysgol. Gall gwyliau fod yn hynod o addysgiadol, a rhoi ymwybyddiaeth i’r plant
o’r byd y maent yn byw ynddo.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 02/04/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606
Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau
Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn a
chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn
adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi
ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod
penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn
ystod y tymor.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb
hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/07/2014.
Prif
ddeisebydd Bethany Walpole-Wroe
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Gorffennaf 2014
Nifer
y llofnodion: 1008
- – Casglodd ddeiseb gysylltiedig dros10,300 o lofnodion.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/07/2014