P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru.

P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddechrau ymchwiliad i’r ffordd y caiff y system lesddaliadau preswyl ei gweithredu yng Nghymru er gwaetha’r newidiadau a wnaed yn sgîl y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad ac i ystyried a ddylid cael terfyn ar godiadau mewn cytundebau lesddaliad yng Nghymru.

Gwybodaeth Ychwanegol: Cafodd y ddeiseb hon ei chyflwyno yn sgîl pryder preswylwyr ar ystâd Elba yn Nhre-gŵyr, oherwydd cynnydd o hyd at 5000% mewn rhent tir blynyddol y mae Cyngor Abertawe yn gofyn i’r lesddeiliaid ei dalu.

Prif ddeisebydd   Residents of Elba Estate

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 263

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014