Cofnodion y Pwyllgor Busnes
Y Pwyllgor Busnes
sy’n gyfrifol am drefnu busnes y Cynulliad. Dyma’r unig bwyllgor y disgrifir ei
swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw
"hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithlon", fel y dywedir
yn Rheol Sefydlog 11.1.
Y Llywydd sy’n
cadeirio’r cyfarfodydd, a bydd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a Rheolwr
Busnes pob un o’r
pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn bresennol hefyd.
Bydd y Pwyllgor
yn cyfarfod bob wythnos fel arfer pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod. Bydd yn
rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu
ar drefn busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
Caiff cofnodion
pob cyfarfod preifat eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn 1 wythnos i’r
Pwyllgor gytuno arnynt – confnodion hyn bellach wedi symud i’r tudalennau y Pwyllgor Busnes
Math o fusnes: Y Pwyllgor Busnes: cofnodion y cyfarfod preifat
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/03/2013
Dogfennau