Cofnodion y Pwyllgor Busnes

Cofnodion y Pwyllgor Busnes

Y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am drefnu busnes y Cynulliad. Dyma’r unig bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithlon", fel y dywedir yn Rheol Sefydlog 11.1.  

 

Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, a bydd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a Rheolwr Busnes pob un or pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad yn bresennol hefyd.

 

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob wythnos fel arfer pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.

 

Caiff cofnodion pob cyfarfod preifat eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn 1 wythnos i’r Pwyllgor gytuno arnynt – confnodion hyn bellach wedi symud i’r tudalennau y Pwyllgor Busnes

Math o fusnes: Y Pwyllgor Busnes: cofnodion y cyfarfod preifat

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/03/2013

Dogfennau