Craffu mewn Llywodraeth Leol

Craffu mewn Llywodraeth Leol

 

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i gyd-fynd â gwaith y Pwyllgor ar yr heriau ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol.

 

Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2014, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi, tra bod cynghorau yn mynd ati i wella trefniadau craffu, nid yw'r canlyniadau bob amser yn glir, er gwaethaf yr amser a'r adnoddau sylweddol a fuddsoddir yn y broses graffu. Canfu’r adroddiad  bod cynghorau yn awyddus i ddysgu a gwella eu dulliau gweithredu, mae hefyd yn nodi eu bod yn ei chael hi'n anodd dangos effaith y gwaith craffu. Gall hyn, ynghyd â rhywfaint o ddiffyg eglurder ynghylch y rôl y mae gwaith craffu yn ei chwarae o ran dwyn y weithrediaeth i gyfrif, arwain rhai pobl i gwestiynu pwysigrwydd a gwerth y gwaith hwnnw.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2014