P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd

P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd

Rydym am ofyn am newid i’r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau mai digwyddiadau trwyddedig yn unig a all drefnu arddangosiadau tân gwyllt a defnyddio tân gwyllt. Rydym am i’r arfer o werthu tân gwyllt i’r cyhoedd yn gyffredinol gael ei wahardd. Rydym am i’r cyhoedd yn gyffredinol gael eu gwahardd rhag defnyddio tân gwyllt. Fel y gwyddom, ers dathliadau’r Mileniwm, nid yw tân gwyllt bellach yn ddigwyddiad ‘unwaith y flwyddyn’ yn unig. Bob blwyddyn, caiff tân gwyllt ei danio am fwy nag wythnos cyn 5 Tachwedd, ac yn gyffredinol byddant yn parhau i danio’n achlysurol nes dathliadau’r Flwyddyn Newydd, pan fyddant ar eu hanterth unwaith eto. Caiff plant ac oedolion eu hanafu bob blwyddyn gan dân gwyllt a gaiff ei danio gan y cyhoedd yn gyffredinol. Gall defnyddio tân gwyllt mewn lleoliad domestig, nad oes ynddo unrhyw gamau rheoleiddio na pherson proffesiynol cymwys sy’n gyfrifol am y tân gwyllt, fod yn angheuol, ac mae hynny wedi’i brofi. Yn ychwanegol, rhaid ystyried yr anifeiliaid anwes diamddiffyn, druan. Yn ôl ffigurau’r RSPCA ar gyfer 2013, mae oddeutu 22 miliwn o anifeiliaid anwes yn ein cartrefi yn y DU - ar gyfartaledd oddeutu un ym mhob dau dŷ. Gall unrhyw berchennog anifail anwes ddeall yr arswyd a achosir gan dân gwyllt mewn gardd cymdogion, lle nad oes rheolaeth. Gall tân gwyllt fod yn rhywbeth gwych i edrych ymlaen ato. Ond fel y mae, mae llawer o bobl yn ofni amser a oedd unwaith yn amser hwyliog a hapus o’r flwyddyn. Helpwch ni a’n hanifeiliaid anwes i deimlo’n ddiogel unwaith eto.

 

Prif ddeisebydd:  Kathy Peart         

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

 

Nifer y llofnodion: 110

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015