P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol
P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wyrdroi
penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gau Ffordd Goedwig Cwmcarn am gyfnod
amhenodol o 2 Tachwedd 2014 ymlaen
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae
Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan y bydd Ffordd Goedwig Cwmcarn ar gau am
gyfnod amhenodol ym mis Tachwedd a bod hyn yn angenrheidiol oherwydd haint y
llarwydd Siapaneaidd yn y goedwig. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, oherwydd bod
anghysondebau yn null Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae digon o ffyrdd cynhaeaf y
gellir eu defnyddio i hwyluso’r gwaith o gael gwared ar y coed. Gellir symud y
pethau sydd angen eu symud ar y ffordd yn ystod y cyfnod pan mae’r ffordd ar
gau yn flynyddol yn ystod y gaeaf; fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn
dweud na fydd y gwaith o symud y coed yn cael ei gwblhau tan 2018 ac, ar ôl
hyn, mae’n bosibl na fydd y ffordd yn ailagor oherwydd materion cyllido. Dim ond
ychydig iawn o amhariad i’w cyfleusterau y mae parciau coedwig eraill yn ei
wynebu o ganlyniad i symud coed. Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr y ffordd yn
annheg ac yn ddianghenraid pan fydd defnyddwyr eraill dim ond yn wynebu
amhariad dros dro. Dylem achub y ffordd ar gyfer ei defnyddwyr, y mae llawer
ohonynt yn hŷn, yn anabl ac yn dod o’n cymunedau lleiafrifoedd ethnig a
mewnfudwyr. Mae hyn yn amddifadu’r bobl hynny sydd fwyaf difreintiedig o’u prif
gyfleuster ar gyfer iechyd a lles.
Prif ddeisebydd:
Robert Jeffrey Southall
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 2,392
llofnod a’r lein a 602 llofnod papur
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/10/2014