P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol

P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn galluogi dinasyddion Cymru i alw am bleidleisiau ar faterion ar lefel Llywodraeth Leol, ac i bleidleisiau o’r fath gael yr effaith o naill ai [1] galw penderfyniadau a wnaed gan gynghorau yn ôl i’w hailystyried, neu [2] gwneud pleidleisiau â mwyafrif o fwy na dwy ran o dair yn rhwymol yn ddemocrataidd.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Mae Plebeian Laboratories yn ymwybodol o nifer ddirifedi o benderfyniadau a wneir ar lefel Llywodraeth Leol, sy’n effeithio’n negyddol ar fywydau dinasyddion, ond nad oes ganddynt fawr ddim cyfle i effeithio arnynt yn uniongyrchol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth uniongyrchol wedi dod yn fwyfwy poblogaidd mewn llawer o wledydd ledled y byd fel ffordd o hybu cyfranogiad dinasyddion a hawliau democrataidd. Go brin y byddai Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio i wneud democratiaeth uniongyrchol yn ddeddf ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ond byddai rhywfaint o ddemocratiaeth uniongyrchol ar lefel Llywodraeth Leol yn sicr o roi hwb i ddemocratiaeth Cymru..

 

Prif ddeisebydd    Plebeian Laboratories

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:  38 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014