P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi torri’r cyllid blynyddol o £12,000 y mae’n ei ddarparu ar gyfer y gwaith sy’n mynd rhagddo o fonitro Gwylogod Ynys Sgomer. Mae’r astudiaeth hon yn un hynod o bwysig sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fywyd adar môr a’r hyn sy’n effeithio ar eu poblogaethau. Nid yn unig yw dod â set ddata sydd wedi cael ei chasglu cyhyd (ac sydd, felly, yn werthfawr) i ben yn drueni, ond ni allai’r toriad fod wedi dod ar adeg waeth, o ystyried effaith enfawr y stormydd diweddar ar boblogaethau adar môr (gyda 25,000 o farwolaethau ar hyn o bryd, a disgwylir i’r rhif hwnnw gynyddu). Mae hwn yn benderfyniad gwael iawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a hoffem ei weld yn cael ei ddiwygio.

 

Prif ddeisebydd   Cardiff University Ornithological Society

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

Nifer y llofnodion: 1687

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/09/2014