P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn
Yr ydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roir gorau iw
chynlluniau arfaethedig iw gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn.
Nid oes tystiolaeth bod microsglodynnu cŵn yn fwy effeithiol, yn rhatach
nac yn garedicach i gŵn. Profodd y dull hwn yn llawer drutach nar
dulliau arferol, fel tatŵs neu dagiau parhaol; maen amharu ar gŵn,
ac o bosibl yn amharu ar hawliau sylfaenol a moesegol anifeiliaid. Mae
tystiolaeth gynyddol hefyd fod y sglodion yn gallu achosi canser mewn
anifeiliaid. Coler â thag ywr dull hawsaf a mwyaf effeithiol o ganfod
perchennog ci. Gall unrhyw un a all ddarllen ddefnyddior system hon. Yn
ôl grwpiau ymgyrchu fel ChipMeNot, byddai microsglodynnu yn cael effaith
wirioneddol ar yr amgylchedd o ganlyniad ir sglodion eu hunain, yr angen
am offer darllen, y batris i bob offer darllen, y cyfrifiaduron i weinyddur
gronfa ddata, ac ati.
Prif ddeisebydd:
Sovereign Wales + ChipMeNot
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Number of signatures: 11
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014