P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion

P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i bob disgybl gael hyfforddiant Cymorth Cyntaf sylfaenol yn ystod eu blynyddoedd TGAU.

Rydym yn credu bod cymorth cyntaf yn sgil achub bywyd hanfodol y mae gan bob person ifanc yr hawl i’w gael. Felly, dylai ddod yn rhan orfodol o addysg uwchradd. Gall cael hyfforddiant cymorth cyntaf gario llawer o gyfrifoldeb ond mae llawer o fuddion iddo. Mewn sefyllfaoedd peryglus gall hyfforddiant cymorth cyntaf wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Felly, gall gwybod sut i roi rhywun yn yr ystum adfer neu sut i ffonio ambiwlans yn effeithiol achub bywydau.

 

Prif ddeisebydd:  Tim Clarke

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014

 

Nifer y llofnodion: 11

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014