P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i weld a yw
deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch meysydd carafannau gwyliau a phreswyl yng
Nghymru yn ddigonol ac / neu a ydynt wedi’u rheoli’n briodol. Os nad ydynt,
rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol. Rydym yn pryderu’n
arbennig am y peryglon a ganlyn i ddiogelwch:
1. Y bwlch rhwng carafannau;
2. Storio nwy potel; a
3. Gosod carafannau a strwythurau llosgadwy eraill yn y lle gwag tair medr o
led o fewn terfynau safleoedd.
Mae’r holl enghreifftiau hyn yn nodi risgiau i ddiogelwch y mae’n ymddangos nad
ydynt yn cael eu rheoli’n ddigonol ar hyn o bryd.
Prif ddeisebydd: Brian
Silvester
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013
Nifer y llofnodion:37
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013