P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc

P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi proses hunanasesu’r Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc i Gymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

Lansiwyd y safonau cyfranogaeth yn 2007 ar ôl iddynt gael eu datblygu gan yr Uned Gyfranogaeth. Ceir saith safon cyfranogaeth, sef Gwybodaeth, Dy Ddewis Di, Dim Gwahaniaethu, Parch, Byddi Di ar Dy Ennill, Adborth a Gwella’r Ffordd Rydym yn Gweithio. Yna datblygodd yr uned gyfranogaeth gynllun nod barcud safonau cenedlaethol yn seiliedig ar y safonau. Diben y nod barcud oedd y byddai’r sefydliadau’n cynnal hunanasesiad ac, unwaith y byddai wedi’i gwblhau, y byddai tîm o arolygwyr ifanc yn dod i archwilio’r dystiolaeth yr oedd y sefydliadau wedi’i darparu i weld a oedd yn cyrraedd y safonau cenedlaethol. Os ystyrir ei bod yn cyrraedd y safonau, byddai’r sefydliadau’n cael Nod Barcud y Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth. Fodd bynnag, nid yw’r uned gyfranogaeth yn bodoli mwyach, sy’n golygu mai dim ond nod barcud lefel sir y gall unrhyw sefydliad sy’n hunanasesu ei gael erbyn hyn, sy’n golygu nad oes cydnabyddiaeth genedlaethol a hefyd nad oes tîm sy’n cydgysylltu’r arolygwyr ifanc.

 

Prif ddeisebydd: Powys Youth Forum

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 39

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2013