P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth

P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Deddf genedlaethol i Gymru ar dai er mwyn rheolir broses o godi tai newydd yn unol ag anghenion lleol a chenedlaethol o ran gallu cynaliadwyedd a fforddiadwyedd: iw reoli gan arolygiaeth annibynnol unigryw i Gymru a phanel amcanestyniadau tai Cymru. Dylai tua 80% or holl dai newydd a godir yng Nghymru, pun ai iw rhentu neuu gwerthu, fod yn dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol (wediu prisio yn gymesur â chyflogau cyfartalog awdurdod lleol) gyda blaenoriaeth i breswylwyr yr awdurdod lleol (pobl sydd wedi byw neu weithion ddi-dor yn yr ardal am 10 mlynedd neu fwy, neu sydd â chysylltiadau gwaith, busnes neu bartner/teulu agos arall yn yr ardal). Bydd hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o lif yr arian lleol yn cylchredeg o fewn economïau lleol, gan eu cadwn iach i ddatblygu o fewn eu modd.Mae hwn yn bolisi tebyg ir rhai a weithredir mewn parciau cenedlaethol yn Lloegr fel y Peak District a Rhosydd Gogledd Swydd Efrog.

 

Gwybodaeth ategol:

Byddai deddf o’r fath yn gwarantu bod yr holl dai newydd a godir yn cael eu hadeiladu yn llwyr gymesur â’r cydbwysedd trefol / gwledig presennol a bod hyn yn cael ei wneud o fewn gallu’r economi a thrwy ystyried cydlyniant cymdeithasol a gallu seilwaith yr awdurdodau lleol a Chymru gyfan. Gellid codi nifer lleiaf sylfaenol o dai / fflatiau newydd yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol o dan ganllawiau a gytunwyd arnynt, gydag unrhyw dai / fflatiau newydd eraill a godir yn gorfod mynd drwy broses graffu gan Lywodraeth Cymru ac arolygiaeth tai annibynnol a gaiff ei sefydlu i Gymru. Gall prisiau tai uchel anghymesur mewn sawl ardal yng Nghymru olygu yn aml bod teuluoedd lleol yn cael eu gorfodi i adael yr ardaloedd lle y’u magwyd. Mae angen i’r ffocws, felly, fod ar angen lleol real gan gynnwys tai fforddiadwy ac adfer adeiladau sy’n bodoli yn barod, yn hytrach nag ar amcanestyniadau tai anghynaladwy a luniwyd gan weision sifil o bell.

 

Prif ddeisebydd:  Cymru Sofren

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 28

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013