P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:


i. I roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn dioddefwyr dementia yng Nghymru sy
n gwneud cais am Arian Gofal Parhaus y GIG, drwy ganiatáu ir categori gwybyddiaeth o angen (a elwir yn barth) godi i lefel Difrifol yn y fersiwn Gymraeg or Offeryn Gwneud Penderfyniadau. Byddai hyn yn ei gwneud yn gydnaws âr fersiwn Saesneg; a


ii. Bod Byrddau Iechyd Lleol uniongyrchol yn gweithredu
r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Arian Gofal Parhaus y GIG, yn gywir, o ran cymhwysedd cleifion a heb ystyried cyfyngiadau cyllidebol.

 

Prif ddeisebydd: Helen Jones

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  19 Chwefror 2013

 

Nifer y llofnodion:  1413

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried