P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dylid defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i wella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro.

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

Ar hyn o bryd, cynhelir dim ond un clinig yr wythnos bob amser cinio ar ddydd Gwener yn Llanilltud Fawr. Mae’r clinig hwn yn gwasanaethu pawb yng ngorllewin y Fro.  Mae’n darparu gwasanaethau cyngor iechyd rhywiol a chynllunio teulu.  Nid yw’r gwasanaeth hwn yn ddigonol i ateb gofynion yr ardal ddaearyddol fawr hon. Cynhelir tri chlinig yr wythnos yn nhref y Barri. Helpwch ni i wella iechyd rhywiol nifer o bobl ifanc a phobl agored i niwed nad ydynt yn gallu teithio 10 milltir neu fwy yn aml i glinig lleol.  Mae’r clinigau hyn yn cynnig gwybodaeth/addysg/cefnogaeth/triniaeth feddygol hanfodol y mae ar bobl ifanc eu hangen. Gall gwella gwasanaethau iechyd rhywiol helpu i ddangos y ffordd i’r grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, i’w cefnogi ac i ofalu amdanynt. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth. Er bod cyfraddau beichiogrwydd ymysg y glasoed yn gostwng, mae cyfraddau erthylu yn codi (fel y dyfynnwyd gan Helen Rogers, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd, ffynhonnell BBC Wales 29/03/12). Yn ei hymateb i’r adroddiad hwn, addawodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynyddu’r cyllid drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella mynediad i ganolfannau iechyd rhywiol integredig (BBC Wales 29/03/12). Daw’r bobl ifanc hyn sy’n agored i niwed yn aml o deuluoedd difreintiedig, nad ydynt yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Pe bai’r bobl ifanc hyn yn byw yn y Barri, byddent yn cael gwasanaeth llawer gwell. Caiff ardal wledig y Fro ei diystyru fel ardal "gyfoethog", ond mae enghreifftiau o amddifadedd economaidd-gymdeithasol i’w cael yn yr ardal. Mae angen rhagor o glinigau. Mae Cymru am gael "Gwasanaeth Iechyd o’r Safon Uchaf" ar gyfer y dyfodol. Y bobl ifanc hyn yw ein dyfodol. Gall beichiogrwydd/erthyliadau ymysg y glasoed gael effaith niweidiol eang ar bobl ifanc yng Nghymru. Gellir atal clefydau a drosglwyddir yn rhywiol os rhoddir y wybodaeth gywir i bobl.

 

Prif ddeisebydd: Rebecca Lowrie

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  16

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013