P-04-422: Ffracio

P-04-422: Ffracio

P-04-422 : Ffracio

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i lunio Datganiad Polisi Cynllunio Mwynau Interim Gweinidogol, yn ogystal â nodyn cyngor technegol newydd, i gryfhau’r egwyddor ragofalus ynglŷn â cheisiadau cynllunio ar gyfer olew a nwy ar y tir, gan gynnwys ffracio.  Rhaid dileu pob amheuaeth wyddonol resymol bod risg o effeithiau niweidiol, a rhaid rhoi’r ystyriaeth gryfaf i’r angen brys i liniaru’r newid yn yr hinsawdd.

Prif ddeisebydd:  Gareth Clubb

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion:  914

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried