P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

P-04-400  Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu a gweithredu safon ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ynghylch profiad defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn ei chyfanrwydd.

 

Gyda’r ddeiseb hon, gobeithiwn roi dyngarwch y person yn ganolbwynt i iechyd meddwl.  Mae angen newid yn y gwasanaethau, y driniaeth a’r ymyraethau a ddefnyddir yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer hyn.  Yn dilyn dwy sesiwn hyfforddi a drefnwyd gan Sefyll yn y Senedd er mwyn rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl am gwmpas a phwerau Cynulliad a Llywodraeth Cymru, bu grŵp ohonom mewn cyfarfod arall gydar Clerc Deisebau i eirior ddeiseb hon.  Gan fod Llywodraeth Cymru yn adolygu CYNLLUN GWEITHREDU IECHYD MEDDWL OEDOLION AR GYFER CYMRU ar hyn o bryd, mae hwn yn gyfle i wneud gwahaniaeth drwy ddylanwadu ar Aelodau’r Cynulliad a Gweinidogion a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.  Cafodd Safonau NICE (2011-2013) www.nice.org.uk/guidance eu datblygu ar gyfer y GIG a’r sectorau gofal cymdeithasol yn Lloegr – nid ydynt yn berthnasol i Gymru – ond maent yn darlunio’r arfer gorau:  Rhoi profiad y defnyddiwr gwasanaeth yn ganolbwynt i bob triniaeth ac ymyrraeth.  Gwneud staff gwasanaethau iechyd meddwl yn gyfrifol am eu gweithredoedd.  Mae canllawiau NICE eisoes ar waith yn Lloegr.  Mae cyfanswm o 15 Datganiad Ansawdd.  Mae’r ddau ganlynol yn darlunio’r ethos a’r agwedd gyffredinol:  “People using mental health services, and their families and carers feel they ar treated with empathy, dignity and respect”.  Datganiad Ansawdd 2 “People in hospital for mental health care, including service users formally detained under the Mental Health Act, are routinely involved in shared decision making”.  Datganiad Ansawdd 11 Yn ychwanegol at yr e-ddeiseb hon, mae fersiwn bapur ar gael os gwneir cais.  Cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost canlynol: MHPetition2012@gmail.com.  Os gallwch helpu mewn unrhyw ffordd gyda’r ymgyrch hon, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod.  I weld y 15 safon ansawdd ewch i: http://publications.nice.org.uk/service-user-experience-in-adult-mental-health-improving-the-experience-of-care-for-people-using-cg136/quality-statements.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Action for Mental Health

 

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  19 Mehefin 2012

 

Nifer y llofnodion:  Tua 200

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;