P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth

P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth

Geiriad y ddeiseb:

Ers dros 10 mlynedd, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i fwy na 15,000 o alwadau, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru.  Mae’n debygol ei fod yn aml iawn wedi achub bywydau a fyddai fel arall wedi’u colli o orfod dibynnu ar gerbydau ambiwlans ar y ffordd.  Mae’r Ambiwlans Awyr wedi’i ariannu’n llwyr gan roddion gan bobl hael Cymru, ond erbyn hyn mae’r gwasanaeth yn rhan mor hanfodol o’n gwasanaethau argyfwng fel y dylai gael ei ariannu gan Gynulliad Cymru.  Bydd y gwasanaeth hyd yn oed yn bwysicach os digwydd rhai o’r newidiadau mewn gwasanaethau Damweiniau ac Argyfwng sy’n cael eu rhagweld.  Byddai hynny’n gorfodi rhai pobl yng Nghymru, yn enwedig yn y canolbarth, i deithio hyd at 1½ awr ar hyd y ffordd i gyrraedd eu hadran Ddamweiniau ac Argyfwng agosaf, sefyllfa a fyddai’n peryglu bywyd ac yn annerbyniol.  Galwn ar Gynulliad Cymru i ddarparu’r arian angenrheidiol i sicrhau y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i ddarparu ei wasanaeth rhagorol a hanfodol i bobl Cymru ac i’r niferoedd sy’n ymweld â’r wlad.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Leslie Mark Wilkins

 

Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:  19 Mehefin 2012

 

Nifer y llofnodion:  63

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;