P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru

P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i orfodi safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ne-orllewin Cymru.

 

Ceir yr ymyrraeth a’r ymchwiliad annibynnol hyn o ganlyniad i’r atgasedd eang sy’n bodoli oherwydd ei bod mor rhwydd cael trwydded i ffermio cŵn bach ac yn sgil diffyg gorfodi safonau lles. Maer atgasedd hwn yn creu delwedd negyddol iawn o Gymru ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Yn ein barn ni, sefydlu ymchwiliad annibynnol yw’r unig ffordd ymlaen, a bydd hyn yn gam bach tuag at adfer enw da Cymru ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Gobeithiwn y bydd yr ymchwiliad hefyd yn cwtogi ar weithgareddau ffiaidd y ffermydd cŵn bach didrwydded.

 

Prif ddeisebydd:
Colin Richardson

 

Nifer y deisebwyr:

3753

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014

Y Broses Ymgynghori

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at  deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Iau, 6 Rhagfyr 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.

 

Dogfennau