P-04-326 Na i losgyddion

P-04-326 Na i losgyddion

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei bolisi cynllunio a’i bolisi ynghylch gwastraff gweddilliol er mwyn cael rhagdybiaeth yn erbyn adeiladu llosgyddion, gan eu bod yn gyrru’r rhan fwyaf o garbon o wastraff i mewn i’r awyr ar ffurf carbon deuocsid, yn rhyddhau gronynnau mân iawn a allant fod yn beryglus i iechyd y cyhoedd, ac yn creu lludw gwenwynig. Credwn fod llosgyddion yn wael i’r amgylchedd ac yn wael i bobl.

 

Prif ddeisebydd:
Cyfeillion y Ddaear Cymru (Mae deiseb gysylltiedig ;Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn anghyfreithlon, erbyn 2020, i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu a fyddai’n hybu cynghorau i ailgylchu,’ a gynigiwyd gan Terry Evans wedi casglu 13,286 o lofnodion)

 

Nifer y deisebwyr:

1299

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;