Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd

Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i ystyried atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd.

 

¬¬¬ Cefndir

 

Ar ôl cael ei ethol yn Aelod o’r Senedd, mae Aelod yn atebol i’w etholwyr ac yn y pen draw, bydd Aelod sy’n sefyll i gael ei ailethol yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y cyhoedd ym mhob etholiad. Gall Aelodau hefyd gael eu hanghymhwyso a’u diswyddo yn ystod tymor y Senedd os cânt eu dyfarnu’n euog o drosedd a chael dedfryd o 12 mis neu ragor yn y carchar. Mewn achos o’r fath, byddai naill ai is-etholiad (os yw’n Aelod etholaethol) neu byddai’r person cymwys nesaf ar restr y blaid (os yw’n Aelod rhanbarthol) yn llenwi sedd wag. Os na fydd enw’n aros ar y rhestr, byddai’r sedd ranbarthol yn aros yn wag tan yr etholiad nesaf.

 

Yn ystod tymor Senedd, disgwylir i’r Aelodau fodloni’r safonau ymddygiad a’r rheolau a nodir yng Nghod Ymddygiad y Senedd sy’n gymwys drwy’r amser. Mae’r cod hwn yn nodi 8 egwyddor – yn seiliedig ar 7 egwyddor bywyd cyhoeddus ‘Nolan’ - ynghyd ag egwyddor ychwanegol ‘parch’ - sy’n nodi’n glir y disgwyliadau ar yr Aelodau. Mae 24 o reolau penodol hefyd yn y Cod y bwriedir iddynt ychwanegu eglurder at yr ymddygiad y gall pob un ohonom ei ddisgwyl gan ein cynrychiolwyr etholedig. Gellir gwneud cwynion am Aelodau unigol o ran achosion posibl o dorri’r safonau hyn. Mae Comisiynydd Safonau annibynnol yn ymchwilio i’r cwynion ac yn rhoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yna, mae’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau hyn ac os canfuwyd bod y safonau wedi’u torri, mae’n rhoi adroddiad i’r Senedd. Caiff y Pwyllgor ddewis argymell y dylid cosbi Aelod.

 

Y cosbau sydd ar gael i’r Senedd ar hyn o bryd mewn achosion o gamymddwyn yw:

>>>> 

>>>y dylid gwahardd yr Aelod o drafodion y Senedd  naill ai'n gyffredinol neu'n benodol - er enghraifft, o drafodion cyfarfodydd penodol y Senedd neu ei phwyllgorau - am gyfnod i’w bennu yn y cynnig ar gyfer gwahardd, yn unol â’r Rheolau Sefydlog;

>>>y dylai hawliau a breintiau penodol aelodaeth o’r Senedd gael eu tynnu’n ôl oddi ar yr Aelod dan sylw; neu

>>>pan fernir bod hynny’n briodol, caniateir cymhwyso unrhyw gyfuniad o’r cosbau uchod.

<<< 

 

Bydd hawliau a breintiau aelodaeth o’r Senedd y caiff y Pwyllgor argymell y dylid eu tynnu’n ôl yn cael eu pennu yn adroddiad y Pwyllgor i’r Senedd, a gall hyn gynnwys:

>>>> 

>>>tynnu’n ôl yr hawl i gael mynediad i gyfleusterau ac ati ar ystad y Senedd a ddarperir fel arfer i’r Aelodau;

>>>gwaharddiad o weithgareddau eraill y byddai gan Aelod hawl i fynd iddynt fel arfer; a/neu

>>>tynnu breintiau cynrychioliadol a seremonïol a breintiau cysylltiedig a fyddai gan Aelod fel arfer. 

<<< 

 

Nid oes pŵer i ddiswyddo unigolyn or Senedd yn gyfan gwbl.

 

zzz

 

¬¬¬ Adalw

 

Inquiry4

Ystyriodd y Pwyllgor Biliau Diwygio faterion yn ymwneud ag atebolrwydd Aelodau fel rhan o’i waith craffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac argymhellodd fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan weithio gyda phleidiau allweddol eraill, yn ymgynghori ar opsiynau posibl yn y maes hwn cyn diwedd y Chweched Senedd. Roedd adalw hefyd yn bwnc yn y gwelliannau a gyflwynwyd yng nghyfnodau dau a thri o’r Bil.

 

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu ystyried a ddylid gwneud aelodau unigol yn fwy atebol - bydd y Pwyllgor yn ystyried datblygu opsiynau yn y meysydd a ganlyn:

>>>> 

>>>Adalw Aelodau (gan argymell rhyw fath o bleidlais gyhoeddus yn y meysydd perthnasol sy’n rhoi opsiwn i ddiswyddo Aelod o’r Senedd), gan gynnwys ystyried:

***Y seiliau a fyddai’n sbarduno proses adalw;

***Sut olwg fyddai ar y broses adalw;

***Y canlyniadau i system etholiadol y Senedd

>>>Rhesymau dros anghymhwyso Aelodau yn ystod tymor y Senedd (mae’r ystyriaeth hon yn ymwneud â materion ynghylch atebolrwydd Aelodau unigol yn unig yn hytrach na rhesymau ehangach dros anghymhwyso);

>>>Cynyddu’r cosbau sydd ar gael i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eu cymhwyso.

<<< 

 

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan dystion arbenigol ar y meysydd allweddol a nodwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a chyhoeddi ei adroddiad ar 23 Ionawr 2025. Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth ar 10 Mawth 2025.

zzz

 

¬¬¬ Y drosedd o ddichell fwriadol

 

Inquiry4

Yn ystod Cyfnodau 2 a 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), cyflwynwyd gwelliannau i gyflwyno anghymhwyso unigolyn rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd os ydynt yn mynd ati’n fwriadol i wneud neu gyhoeddi datganiad ffug neu ddichellgar.

Yn ystod trafodion Cyfnod 3, ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer anghymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o ddichell bwriadol drwy broses farnwrol annibynnol. Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Pwyllgor yn ei wahodd i drafod y mater hwn.

Yn dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i ehangu cwmpas ei ymchwiliad cychwynnol i gynnwys:

>>>> 

>>>casglu tystiolaeth ar rinweddau cyflwyno mecanweithiau pellach ar gyfer anghymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir eu bod wedi dichellu’r etholwyr yn fwriadol, gan gynnwys drwy broses farnwrol annibynnol.

<<< 

 

Ar 8 Gorffennaf, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, cytunodd y Pwyllgor i wahodd Aelodau a oedd yn gynigwyr y gwelliant i'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), i gyfrannu at ei waith yn ymwneud â'r drosedd o ddichell. Cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau'r Pwyllgor ac Aelodau sy'n arsylwi’r trafodion, gan nodi sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol.

 

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan dystion arbenigol ar y meysydd allweddol a nodwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a chyhoeddi ei adroddiad ar 19 Chwefror 2025. Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth ar 26 Mawth 2025.

zzz

 

¬¬¬ Rhoddion

 

Inquiry2

 

Mae’n bwysig i’r Senedd fod mor dryloyw ac agored â phosibl, yn enwedig mewn perthynas â chael arian a rhoddion fel Aelodau o’r Senedd. Mae rhoddion o’r fath yn bwysig ar gyfer ariannu gweithgareddau fel ymgyrchoedd arweinyddiaeth, nad oes modd defnyddio adnoddau’r Senedd ar eu cyfer wrth gwrs. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cynnal hyder yr etholwyr. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

 

>>>> 

>>>lefel y gwaith o gofnodi a datgelu rhoddion y mae’n ofynnol i Aelodau unigol ei wneud;

>>>a ddylai fod unrhyw gyfyngiadau (y tu hwnt i rai’r Comisiwn Etholiadol) ar bwy all roi;

>>>a ddylai fod cap ar roddion gan unrhyw un endid neu unigolyn; ac

>>>a ddylai fod amrywiad yn y rheolau yn dibynnu ar ffynhonnell y rhodd.

<<< 

 

zzz

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau