Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd
Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd
Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad i ystyried atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd.
Ar ôl cael ei
ethol yn Aelod o’r Senedd, mae Aelod yn atebol i’w etholwyr ac yn y pen draw,
bydd Aelod sy’n sefyll i gael ei ailethol yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y
cyhoedd ym mhob etholiad. Gall Aelodau hefyd gael eu hanghymhwyso a’u diswyddo
yn ystod tymor y Senedd os cânt eu dyfarnu’n euog o drosedd a chael dedfryd o
12 mis neu ragor yn y carchar. Mewn achos o’r fath, byddai naill ai is-etholiad
(os yw’n Aelod etholaethol) neu byddai’r person cymwys nesaf ar restr y blaid
(os yw’n Aelod rhanbarthol) yn llenwi sedd wag. Os na fydd enw’n aros ar y
rhestr, byddai’r sedd ranbarthol yn aros yn wag tan yr etholiad nesaf.
Yn ystod tymor
Senedd, disgwylir i’r Aelodau fodloni’r safonau ymddygiad a’r rheolau a nodir
yng Nghod Ymddygiad y Senedd sy’n gymwys drwy’r amser. Mae’r cod hwn yn nodi 8
egwyddor – yn seiliedig ar 7 egwyddor bywyd cyhoeddus ‘Nolan’ - ynghyd ag
egwyddor ychwanegol ‘parch’ - sy’n nodi’n glir y disgwyliadau ar yr Aelodau.
Mae 24 o reolau penodol hefyd yn y Cod y bwriedir iddynt ychwanegu eglurder at
yr ymddygiad y gall pob un ohonom ei ddisgwyl gan ein cynrychiolwyr etholedig.
Gellir gwneud cwynion am Aelodau unigol o ran achosion posibl o dorri’r safonau
hyn. Mae Comisiynydd Safonau annibynnol yn ymchwilio i’r cwynion ac yn rhoi
adroddiad ar ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yna, mae’r
Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau hyn ac os canfuwyd bod y safonau wedi’u
torri, mae’n rhoi adroddiad i’r Senedd. Caiff y Pwyllgor ddewis argymell y
dylid cosbi Aelod.
Y cosbau sydd ar
gael i’r Senedd ar hyn o bryd mewn achosion o gamymddwyn yw:
>>>>
>>>y
dylid gwahardd yr Aelod o drafodion y Senedd
naill ai'n gyffredinol neu'n benodol - er enghraifft, o drafodion
cyfarfodydd penodol y Senedd neu ei phwyllgorau - am gyfnod i’w bennu yn y
cynnig ar gyfer gwahardd, yn unol â’r Rheolau Sefydlog;
>>>y
dylai hawliau a breintiau penodol aelodaeth o’r Senedd gael eu tynnu’n ôl oddi
ar yr Aelod dan sylw; neu
>>>pan
fernir bod hynny’n briodol, caniateir cymhwyso unrhyw gyfuniad o’r cosbau
uchod.
<<<
Bydd hawliau a
breintiau aelodaeth o’r Senedd y caiff y Pwyllgor argymell y dylid eu tynnu’n
ôl yn cael eu pennu yn adroddiad y Pwyllgor i’r Senedd, a gall hyn gynnwys:
>>>>
>>>tynnu’n
ôl yr hawl i gael mynediad i gyfleusterau ac ati ar ystad y Senedd a ddarperir
fel arfer i’r Aelodau;
>>>gwaharddiad
o weithgareddau eraill y byddai gan Aelod hawl i fynd iddynt fel arfer; a/neu
>>>tynnu
breintiau cynrychioliadol a seremonïol a breintiau cysylltiedig a fyddai gan
Aelod fel arfer.
<<<
Nid oes pŵer i ddiswyddo unigolyn o’r Senedd yn gyfan gwbl.
Ystyriodd y Pwyllgor Biliau Diwygio faterion yn
ymwneud ag atebolrwydd Aelodau fel rhan o’i waith craffu ar Fil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau) ac argymhellodd fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan
weithio gyda phleidiau allweddol eraill, yn ymgynghori ar opsiynau posibl yn y
maes hwn cyn diwedd y Chweched Senedd. Roedd adalw hefyd yn bwnc yn y
gwelliannau a gyflwynwyd yng nghyfnodau dau a thri o’r Bil.
Mae’r Pwyllgor yn
bwriadu ystyried a ddylid gwneud aelodau unigol yn fwy atebol - bydd y Pwyllgor
yn ystyried datblygu opsiynau yn y meysydd a ganlyn:
>>>>
>>>Adalw
Aelodau (gan argymell rhyw fath o bleidlais gyhoeddus yn y meysydd perthnasol
sy’n rhoi opsiwn i ddiswyddo Aelod o’r Senedd), gan gynnwys ystyried:
***Y seiliau a
fyddai’n sbarduno proses adalw;
***Sut olwg
fyddai ar y broses adalw;
***Y canlyniadau
i system etholiadol y Senedd
>>>Rhesymau
dros anghymhwyso Aelodau yn ystod tymor y Senedd (mae’r ystyriaeth hon yn
ymwneud â materion ynghylch atebolrwydd Aelodau unigol yn unig yn hytrach na
rhesymau ehangach dros anghymhwyso);
>>>Cynyddu’r
cosbau sydd ar gael i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eu cymhwyso.
<<<
Dros dymor yr haf
2024, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan dystion arbenigol am y meysydd
allweddol a nodwyd yn y cylch gorchwyl hwn i helpu i gwmpasu a lywio ei
ymgynghoriad cyhoeddus.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2024