Gweithredu diwygiadau addysg
Gweithredu diwygiadau addysg
Inquiry2
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn
monitro’r broses o weithredu dau ddiwygiad addysg allweddol wrth iddynt gael eu
cyflwyno drwy gydol y Chweched Senedd.
Cefndir
Mae Llywodraeth
Cymru yn gweithredu dwy Ddeddf addysg o bwys mawr a basiwyd yn y Senedd
ddiwethaf:
>>>>
>>>Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
>>>Deddf
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
<<<
Mae'r cwricwlwm
newydd yn gwyro oddi wrth ddull gweithredu rhagnodedig y cwricwlwm cenedlaethol
blaenorol. Bwriedir i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei arwain at ddiben yn hytrach
na bod yn seiliedig ar gynnwys. Bydd gan ysgolion hyblygrwydd i ddylunio eu
cwricwla eu hunain, o fewn fframwaith cenedlaethol eang.
Mae’r cwricwlwm
newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Yn ôl y
gyfraith, caiff ei gyflwyno mewn ysgolion uwchradd erbyn mis Medi 2023 fan
bellaf ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8. Fodd bynnag, mae gan ysgolion uwchradd
y dewis i’w gyflwyno ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022 os ydynt yn barod i wneud
hynny (bydd bron i hanner yr ysgolion uwchradd yn dechrau addysgu'r cwricwlwm
newydd o fis Medi 2022 ymlaen). Caiff ei gyflwyno, wedyn, i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol – flwyddyn ar ôl blwyddyn –
hyd nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn
yr erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd.
Mae’r diwygiadau
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn effeithio ar tua un o bob pump o
ddisgyblion. Roedd y system 'Anghenion Addysgol Arbennig' (AAA) bresennol yn
destun adolygiad ac yn cynnig diwygiad am dros ddegawd tan Ddeddf 2018. Roedd y
system AAA bresennol yn rhagnodi system tair haen. O dan Ddeddf 2018, rhoddir
Cynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr ag ADY yn nodi ei anghenion a pha
ymyriadau sydd eu hangen arno. Mae’r trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno
fesul cam dros gyfnod o dair blynedd rhwng mis Medi 2021 a mis Gorffennaf 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd.
Mae’r diwygiadau
i’r cwricwlwm ac ADY fel ei gilydd yn rhaglenni heriol ac uchelgeisiol at
ddibenion newid, ar gyfer system addysg sydd wedi wynebu’r dasg o reoli’r
pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lefelau’r cyllid sydd ar gael i
ysgolion – a hyd a lled y dysgu a’r hyfforddiant proffesiynol sydd eu hangen ar
y gweithlu – yn faterion sydd wedi’u nodi’n gyson fel rhai hanfodol i’w
gweithredu’n llwyddiannus.
Cylch gorchwyl
Bydd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:
>>>>
>>>Weithredu’r
Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd.
>>>Lefel
cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr
hyblygrwydd sydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith
cenedlaethol.
>>>Diwygio
cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
>>>Gweithredu'r
system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn
effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.
>>>Cymhwyso'r
diffiniad o ADY, o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ac a oes
unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.
>>>Yr
hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn ei dderbyn er
mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.
>>>Ffactorau
eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r
system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.
>>>Yr
heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n dod i ran gwahanol fathau o ysgolion mewn
amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran
gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Bydd y Pwyllgor yn trefnu bod cyfnodau monitro byr, â
ffocws, thematig yn digwydd drwy gydol y Chweched Senedd. Bydd pob cyfnod
monitro yn cynnwys gweithgareddau ymgysylltu (e.e. ymweliadau ag ysgolion i
siarad â staff, disgyblion a rhieni) a chraffu ar waith un o Weinidogion
Llywodraeth Cymru.
Gellir pennu ffocws pob ymchwiliad fesul achos. Mae ffocws pob cyfnod monitro yn debygol
o gael ei bennu gan y canlynol:
>>>>
>>>cynlluniau
Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses weithredu ac unrhyw wybodaeth gyd-destunol
arall a amlygwyd gan staff ymchwil a rhanddeiliaid;
>>>unrhyw
beth a ddysgwyd o’r cyfnodau monitro blaenorol;
>>>unrhyw
faterion sy’n deillio o’r ymgynghoriad agored; ac
>>>unrhyw
bryderon neu feysydd eraill sydd o ddiddordeb i’r Aelodau ar y pryd.
<<<
Ar sail cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer
gweithredu'r diwygiadau, bwriada’r Pwyllgor i’r cyfnodau hyn ddigwydd unwaith
neu ddwywaith y flwyddyn.
¬¬¬Trydyedd 'Cyfnod monitro'– Ebrill/Mai 2024
Yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2023, cytunodd y Pwyllgor ar
y dull ar gyfer ei drydydd cyfnod monitro. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio'n
bennaf ar weithredu diwygiadau ADY.
Yn rhan o'r trydydd cyfnod monitro, cymerodd y Pwyllgor
dystiolaeth lafar ffurfiol gan Estyn
a Llywydd
Tribiwnlys Addysg Cymru. Cafodd y Pwyllgor gyfanswm o 20 ymateb
ysgrifenedig ychwanegol i’w ymgynghoriad cyn y cyfnod monitro hwn.
Ymwelodd y Pwyllgor â phedair ysgol i siarad yn
uniongyrchol ag arweinwyr ysgol, staff, llywodraethwyr a disgyblion. Mae
adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r ymweliadau hynny wedi
cael ei gyhoeddi (PDF 402KB).
Hefyd, fe dynnodd y Pwyllgor ar y dystiolaeth ymgysylltu
a gasglodd fel rhan o'i waith ar fynediad
plant a phobl ifanc anabl at addysg a gofal plant. Ar 14 Mawrth 2024,
cyfarfu grŵp
cynghori ar-lein yr ymchwiliad hwnnw i drafod y diwygiadau hyn. Mae nodyn o'r
sesiwn ar
gael (PDF175KB). Cafodd data o gyfweliadau teuluol a gynhaliwyd yn ystod
haf 2023 eu hailddadansoddi, a chafodd unrhyw ddata a oedd yn berthnasol i'r
ymchwiliad hwn eu tynnu allan a'u cyhoeddi
mewn adroddiad cryno (PDF176KB).
Helpodd yr holl dystiolaeth a gasglwyd i gyfoethogi'r
sesiwn a gynhaliwyd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ar 8
Mai 2024. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad
interim, gan nodi’r casgliadau a’r argymhellion sy’n deillio o'r tri chyfnod
monitro.
Gohebiaeth
>>>>
>>>Llythyr
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg – 18 Mehefin 2024 (PDF 224KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg – 10 Mai 2024 (PDF 217KB)
<<<
zzz
¬¬¬ Ail 'Gyfnod monitro'– Ebrill/Mai 2023
Dechreuodd ail gyfnod monitro’r Pwyllgor ar ddechrau
tymor yr haf 2023. Prif ffocws y cyfnod hwn oedd cyflwyno diwygiadau Anghenion
Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion uwchradd, a chyflwyno’r cwricwlwm newydd i
ysgolion uwchradd a’i mabwysiadodd ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 yn y flwyddyn
academaidd 2022-2023.
Bu’r Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion ac yn cynnal sesiwn graffu
gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y
Senedd waith gyda staff ysgolion, ac mae adroddiad sy’n crynhoi’r hyn a
ddeilliodd o’r sesiynau hyn wed’i gyhoeddi
(PDF 270KB)
Yn dilyn y sesiwn graffu gyda’r Gweinidog, ysgrifennodd y
Pwyllgor at Llywodraeth
Cymru (PDF 242KB), Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (PDF 162KB), a Chydffederasiwn
GIG Cymru (PDF 156KB). Rydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth
Cymru (PDF 357KB) a Chonffederasiwn
GIG Cymru (PDF 502KB) a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (PDF 306KB).
>>>Llythyr
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gomisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig)
- 31 Gorffennaf 2023 (PDF 408KB)
>>>Llythyr
gan Gomisiynydd Plant Cymru at Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig) – 30 Mehefin 2023 (PDF
408KB)
>>>Llythyr
gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru – 28 Mehefin 2023 (PDF 184KB)
>>>Llythyr
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg – 13 Mehefin 2023 (PDF 193KB)
>>>Llythyr
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 27 Ebrill 2023 (PDF 645KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Prif Swyddog
Gweithredol, Cymwysterau Cymru - 23 Mawrth 2023 (PDF 206KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y sector Addysg Uwch
- 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Prifysgolion
Cymru - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)
>>>Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Colegau Cymru
- 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)
<<<
zzz
¬¬¬‘Cyfnod monitro’ cgyntaf – Gorffennaf/Medi 2022
Dechreuodd cyfnod monitro cyntaf y Pwyllgor yn ystod yr
haf, a oedd yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a sesiwn graffu gyda
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Arweiniodd hyn at lythyr
(PDF 183KB) at y Gweinidog ynghylch nifer y dysgwyr sy'n cael eu hystyried ar
hyn o bryd fel rhai ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), sy’n cael eu nodi fel
bod ag ADY a'u trosglwyddo i'r system ADY newydd. Ymatebodd
(PDF 142KB) Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod y diffiniad o ADY bellach yn
cael ei ddefnyddio'n fwy trylwyr nag oedd AAA yn y gorffennol.
Mae'r erthygl hon gan Ymchwil
y Senedd yn crynhoi'r ohebiaeth a'r materion a godwyd.
>>>>
>>>Llythyr
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 28 Medi 2022 (PDF 182KB)
<<<
zzz
Ymgynghoriad
Gall unrhyw un sydd â diddordeb naill ai yn y cwricwlwm
newydd neu'r diwygiadau ADY - fel addysgwyr, rhanddeiliaid, disgyblion neu
rieni - gyflwyno eu barn ar unrhyw elfen o gyflwyno'r diwygiadau addysg ar
unrhyw adeg o’u taith pan gânt eu gweithredu. Mae croeso i chi gyflwyno cymaint
o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch. Byddant i gyd yn
cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i ganolbwyntio ei waith
craffu.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw diwedd Chweched
Senedd Cymru (yn 2026).
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymateb i’w chael ar
dudalen yr ymgynghoriad.
Mae'r Pwyllgor
wrthi’n cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac
addysg ac i ba raddau y mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol
yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd tystiolaeth a
gyflwynir i'r ymchwiliad hwn sy'n ymwneud â'r system ADY hefyd yn cael ei
thrafod fel rhan o'r ymchwiliad I fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal
plant ac addysg.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg -18 Mehefin 2024 PDF 224 KB
- Crynodeb o ganfyddiadau'r ymweliadau ag ysgolion - Haf 2024 PDF 118 KB Gweld fel HTML (2) 160 KB
- Grŵp Cynghori Ar-lein - 14 Mawrth 2024 PDF 175 KB
- Data wedi’u hailddadansoddi o Gyfweliadau Teuluol - Haf 2023 PDF 176 KB
Ymgynghoriadau
- Gweithredu diwygiadau addysg (Rhedeg hyd 31/12/2025)