Plant sydd ar yr ymylon
Plant sydd ar yr ymylon
Inquiry5

Adroddiad
Ar 5 Rhagfyr,
cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ysgrifenedig (PDF 1.8MB)
Ar 21 Ionawr
cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 268KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher
12 Mawrth 2025.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ymchwiliad i blant ar yr ymylon, sydd yn gryno yn ymwneud â phlant coll a'r
rhai sy'n agored i ecsbloetio troseddol.
Dilynodd yr
ymchwiliad hwn adroddiad y Pwyllgor i newid radical ar gyfer plant sydd â
phrofiad o fod mewn gofal. O'r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod
plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cyfrif am bron i 40% o blant sy'n
mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod
mewn perygl o gael eu 'troseddoli' yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn
gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, rhai grwpiau o blant sy’n
wynebu heriau yn y system addysg, plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu
heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.
Roedd yr
ymchwiliad yn canolbwyntio ar y canlynol:
Plant coll:
>>>>
>>>Natur
a graddfa: y mater ac amrywiadau rhanbarthol.
>>>Grwpiau
mewn perygl: gan gynnwys effaith profiad o ofal a lleoliadau y tu allan i'r
ardal.
>>>Ymarfer:
materion fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.
>>>Polisi:
Effeithiolrwydd ymatebion polisi ac arfer datganoledig, gan gynnwys trosolwg
gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau
perthnasol Llywodraeth Cymru.
>>>Pwerau
datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r
rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder
troseddol ac Ieuenctid.
<<<
Plant sy’n
ddioddefwyr camfanteisio troseddol:
>>>>
>>>Natur
a graddfa: ledled Cymru ac amrywiadau rhanbarthol (e.e. traddodiadol,
cysylltiedig â chyffuriau, rhywiol, ariannol).
>>>Grwpiau
mewn perygl: gan gynnwys profiad o ofal, plant sy'n profi trawma yn y
cartref, a rhai grwpiau o blant sy’n wynebu heriau yn y system addysg.
>>>Polisi:
Effeithiolrwydd polisi datganoledig gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru.
P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru
fel Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.
>>>Ymarfer:
Dulliau o atal, cydnerthedd cymunedol, ymyriadau cynnar, cymorth a ddarperir a
strategaethau ymadael i ddioddefwyr. Materion ymarferol fel rhannu gwybodaeth a
chasglu data.
>>>Pwerau
datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r
rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder
troseddol ac ieuenctid. A oes unrhyw densiwn rhwng cyfraith droseddol a
diogelu.
<<<
Grwpiau
eraill: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried, hefyd, a oes grwpiau eraill o blant, yn ogystal, "ar yr
ymylon". Roedd y rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau a oedd yn
gofyn am ymateb penodol gan wasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill,
yr oedd pryderon yn eu cylch o ran y polisi neu'r arfer presennol.
Casglu
tystiolaeth
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth lafar ffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru a chynhaliodd
waith craffu ar aelodau Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod ar 19 Medi 2024. Yn dilyn y
cyfarfod, gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Daeth
y wybodaeth hon
i law ar (PDF 318KB) 9 Hydref 2024.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ddau ddigwyddiad i randdeiliaid gydag ymarferwyr rheng flaen,
arbenigwyr polisi, academyddion a rhanddeiliaid eraill. Mae adroddiad sy'n
crynhoi canfyddiadau'r digwyddiadau i randdeiliaid ar
gael (PDF 279KB).
Cynhaliodd y
Pwyllgor, hefyd, ymweliadau ymgysylltu i siarad ag ymarferwyr rheng flaen,
arbenigwyr polisi, plant a rhanddeiliaid eraill am faterion sy'n berthnasol i'r
ymchwiliad. Mae adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r ymweliadau ymgysylltu ar
gael (PDF 243KB). Yn dilyn yr ymweliad ag Uned Ddiogel Hillside, ysgrifennodd
(PDF 113KB) y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru am wybodaeth ddilynol., Cafodd y
Pwyllgor ymateb
(PDF 287KB) ar 6 Medi.
I gefnogi gwaith
y Pwyllgor, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd gyfweliadau â phum
person ifanc a dau riant o dde Cymru sydd wedi goroesi camfanteisio troseddol. Cafodd
eu barn a'u profiadau eu crynhoi’n ddienw mewn
adroddiad (PDF 216KB), ac fe'u portreadwyd, hefyd, gan actorion mewn
ffilm fer. Dangoswyd yr adroddiad a'r ffilm i'r Pwyllgor ar 6 Tachwedd
2024.
Ymgynghoriad
Lansiodd y
Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 23 Ionawr 2024. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 28 Mawrth 2024. Mae pob ymateb wedi'i gyhoeddi.
Ysgrifennodd y
Pwyllgor, hefyd, at nifer o sefydliadau, yn benodol i ofyn am dystiolaeth
ysgrifenedig ychwanegol i ategu ei alwad ehangach am dystiolaeth.
>>>>
>>>Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (PDF 138KB)
Ymateb
gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru – 23 Awst 2024 (PDF 331KB)
>>>Heddlu
Trafnidiaeth Prydeinig (PDF 136KB)
>>>Cadeirydd
Plismona yng Nghymru (PDF 136KB)
Ymateb
gan Blismona yng Nghymru (Saesneg yn unig) - 23 Awst 2024 (PDF 457KB)
>>>Cadeirydd
Grŵp Prif Swyddogion
Cymru (PDF 154KB)
>>>Cadeirydd
Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (PDF 138KB)
>>>Byrddau
Iechyd y GIG (PDF 392KB)
Ymateb
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) – 9 Awst 2024
(PDF 289KB)
Ymateb
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) – 23 Awst 2024 (PDF
127KB)
Ymateb
gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) – 23 Awst 2024 (PDF 221KB)
Ymateb
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Saesneg yn unig) – 30 Awst
2024 (PDF 369KB)
>>>Iechyd
Cyhoeddus Cymru (PDF 139KB)
>>>Canolfan
Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid (PDF 112KB)
>>>Byrddau
Cyfiawnder Ieuenctid (PDF 139KB)
<<<<
Diwygiwyd y
dudalen hon ar 06/03/24 i egluro nad ystyrir bod plant sy'n cael addysg gartref
mewn mwy o berygl o fynd ar goll neu gael eu troseddoli na phlant sy'n cael eu
haddysgu mewn ysgolion.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2023
Dogfennau
- Nodyn briffio gan Crisis (Saesneg yn unig) - 25 Mawrth 2025
PDF 295 KB - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Wasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru - 17 Mawrth 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 189 KB - Nodyn briffio gan Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru, Sefydliad Bevan, Cymdeithas y Plant a TGP Cymru - 19 Chwefror 2025
PDF 421 KB - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oddi wrth Brif Weithredwr NYAS Cymru - 29 Chwefror 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB - Ymateb Llywodraeth Cymru - 21 Ionawr 2025
PDF 268 KB - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru - 6 Rhagfyr 2024
PDF 190 KB - Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion - Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu - Hydref 2024
PDF 216 KB - Canfyddiadau yn dilyn digwyddiadau i randdeiliaid
PDF 276 KB - Canfyddiadau gweithgareddau ymgysylltu
PDF 243 KB - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol - 18 Gorffennaf 2024
PDF 97 KB
Ymgynghoriadau
- Plant sydd ar yr ymylon (Wedi ei gyflawni)