Plant sydd ar yr ymylon

Plant sydd ar yr ymylon

Inquiry5

 

A group of swings in a park

Description automatically generated

 

Adroddiad

Ar 5 Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ysgrifenedig (PDF 1.8MB)

Ar 21 Ionawr cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 268KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 12 Mawrth 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i blant ar yr ymylon, sydd yn gryno yn ymwneud â phlant coll a'r rhai sy'n agored i ecsbloetio troseddol.

Dilynodd yr ymchwiliad hwn adroddiad y Pwyllgor i newid radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O'r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cyfrif am bron i 40% o blant sy'n mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod mewn perygl o gael eu 'troseddoli' yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, rhai grwpiau o blant sy’n wynebu heriau yn y system addysg, plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.

Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y canlynol:

Plant coll:

>>>> 

>>>Natur a graddfa: y mater ac amrywiadau rhanbarthol.

>>>Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys effaith profiad o ofal a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

>>>Ymarfer: materion fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

>>>Polisi: Effeithiolrwydd ymatebion polisi ac arfer datganoledig, gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru.

>>>Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac Ieuenctid.

<<< 

 

Plant sy’n ddioddefwyr camfanteisio troseddol:

>>>> 

>>>Natur a graddfa: ledled Cymru ac amrywiadau rhanbarthol (e.e. traddodiadol, cysylltiedig â chyffuriau, rhywiol, ariannol).

>>>Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys profiad o ofal, plant sy'n profi trawma yn y cartref, a rhai grwpiau o blant sy’n wynebu heriau yn y system addysg.

>>>Polisi: Effeithiolrwydd polisi datganoledig gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru fel Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

>>>Ymarfer: Dulliau o atal, cydnerthedd cymunedol, ymyriadau cynnar, cymorth a ddarperir a strategaethau ymadael i ddioddefwyr. Materion ymarferol fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

>>>Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac ieuenctid. A oes unrhyw densiwn rhwng cyfraith droseddol a diogelu.

<<< 

 

Grwpiau eraill: Bu’r Pwyllgor yn ystyried, hefyd, a oes grwpiau eraill o blant, yn ogystal, "ar yr ymylon". Roedd y rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau a oedd yn gofyn am ymateb penodol gan wasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill, yr oedd pryderon yn eu cylch o ran y polisi neu'r arfer presennol.

 

Casglu tystiolaeth  

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru a chynhaliodd waith craffu ar aelodau Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod ar 19 Medi 2024. Yn dilyn y cyfarfod, gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Daeth y wybodaeth hon i law ar (PDF 318KB) 9 Hydref 2024.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ddau ddigwyddiad i randdeiliaid gydag ymarferwyr rheng flaen, arbenigwyr polisi, academyddion a rhanddeiliaid eraill. Mae adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r digwyddiadau i randdeiliaid ar gael (PDF 279KB).

 

Cynhaliodd y Pwyllgor, hefyd, ymweliadau ymgysylltu i siarad ag ymarferwyr rheng flaen, arbenigwyr polisi, plant a rhanddeiliaid eraill am faterion sy'n berthnasol i'r ymchwiliad. Mae adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r ymweliadau ymgysylltu ar gael (PDF 243KB). Yn dilyn yr ymweliad ag Uned Ddiogel Hillside, ysgrifennodd (PDF 113KB) y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru am wybodaeth ddilynol., Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 287KB) ar 6 Medi.

 

I gefnogi gwaith y Pwyllgor, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd gyfweliadau â phum person ifanc a dau riant o dde Cymru sydd wedi goroesi camfanteisio troseddol. Cafodd eu barn a'u profiadau eu crynhoi’n ddienw mewn adroddiad (PDF 216KB), ac fe'u portreadwyd, hefyd, gan actorion mewn ffilm fer. Dangoswyd yr adroddiad a'r ffilm i'r Pwyllgor ar 6 Tachwedd 2024.

  

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 23 Ionawr 2024. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Mawrth 2024. Mae pob ymateb wedi'i gyhoeddi.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor, hefyd, at nifer o sefydliadau, yn benodol i ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol i ategu ei alwad ehangach am dystiolaeth.

>>>> 

>>>Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (PDF 138KB)

Ymateb gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru – 23 Awst 2024 (PDF 331KB)

>>>Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (PDF 136KB)

>>>Cadeirydd Plismona yng Nghymru (PDF 136KB)

Ymateb gan Blismona yng Nghymru (Saesneg yn unig) - 23 Awst 2024 (PDF 457KB)  

>>>Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru  (PDF 154KB)

>>>Cadeirydd Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (PDF 138KB)

>>>Byrddau Iechyd y GIG (PDF 392KB)

Ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) – 9 Awst 2024 (PDF 289KB)

Ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) – 23 Awst 2024 (PDF 127KB)

Ymateb gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) – 23 Awst 2024 (PDF 221KB)

Ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Saesneg yn unig) – 30 Awst 2024 (PDF 369KB)

>>>Iechyd Cyhoeddus Cymru (PDF 139KB)

>>>Canolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid (PDF 112KB) 

>>>Byrddau Cyfiawnder Ieuenctid (PDF 139KB)

 

<<<< 

 

Diwygiwyd y dudalen hon ar 06/03/24 i egluro nad ystyrir bod plant sy'n cael addysg gartref mewn mwy o berygl o fynd ar goll neu gael eu troseddoli na phlant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau