Diwygio'r Senedd

Diwygio'r Senedd

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad gan Bwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, cynhaliodd Pwyllgor Busnes ymgynghoriad i lywio ei waith o ystyried pedwar argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, yn ymwneud yn benodol â:

 

·         Maint Llywodraeth Cymru;

·         Nifer y Dirprwy Lywyddion;

·         Nifer Comisiynwyr y Senedd; a

·         Canlyniadau Aelod yn newid ei blaid wleidyddol.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Tachwedd 2022 ac arweiniodd at gyhoeddi ymateb, ar ffurf adroddiad, gan y Pwyllgor Busnes.

 

 

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2022

Ymgynghoriadau